Jim Davis

Jim Davis

Galwad i’r bar: 
1997
Gray’s Inn
01792 464623

Cafodd Jim Davis ei dderbyn yn Gyfreithiwr ym 1978 ac ym 1997 fe’i galwyd i’r Bar ac ymunodd â Siambrau Angel. Mae wedi ymarfer mewn Troseddau’n unig ar hyd ei yrfa ac mae’n cynrychioli’r Erlyniad a’r Amddiffyniad ym mhob categori o waith troseddol.

Rhwng 1986 a 1995, roedd yng ngofal Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Ngorllewin Morgannwg. Apwyntiwyd yn 2000 yn Ddirprwy Barnwr Rhanbarthol (Llys Ynadon) a gwnaeth eistedd yn aml tan 2017.

Mae ei brofiad, fel cyfreithiwr a bargyfreithiwr, yn cynnwys rhai o’r achosion o lofruddiaeth fwyaf difrifol ac uchel eu proffil yn Ne Cymru. Mae ganddo arbenigedd ym maes technoleg gwybodaeth ac mae’n cynnal achosion o trosedd cyfrifiaduron cymhleth.

Meysydd ymarfer

Cyfraith trosedd

Mae Jim yn erlyn ac yn amddiffyn pob categori o waith troseddol, gan gynnwys y canlynol:

  • llofruddiaeth, dynladdiad a thrais difrifol
  • trais a throseddau rhywiol difrifol (gan gynnwys cam-drin rhywiol hanesyddol)
  • twyll difrifol
  • trosedd cyfrifiaduron cymhleth
  • marwolaeth trwy yrru’n beryglus
  • cynllwynion cyffuriau

Mae’n Erlynydd Gradd 4 Gwasanaeth Erlyn y Goron ac yn aelod o Banel Trais Arbenigol Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Mae’r achosion nodedig yn cynnwys:

  • David Morris: Cwnsler Iau yn erlyniad David Morris am lofruddio tair cenhedlaeth o’r un teulu (a adwaenir fel ‘llofruddiaethau Clydach’) a oedd yn un o’r ymchwiliadau troseddol mwyaf yn hanes cyfreithiol Cymru

  • Ian Watkins:  Cwnsler Iau yn erlyniad Watkins (o’r ‘LostProphets’) am droseddau rhyw amryfal ar blant a chreu delweddau anweddus

  • S: Cwnsler amddiffyn mewn achos anarferol yn ymwneud â marwolaeth plentyn yr honnwyd iddi gael ei hachosi gan y sgyrfi

  • R: Achos yn ymwneud â 400 o achosion o hacio cyfrifiaduron a blacmel

  • Knight: Erlyniad am dwyll ac ymdrechu i wrthdroi cwrs cyfiawnder trwy’r diffynnydd yn honni ei fod mewn coma

Aelodaeth 
  • Aelod o Gymdeithas y Bar Troseddol
  • Cylchdaith Cymru a Chaer