Cyfraith teulu
Achosion Cyfraith Gyhoeddus
Achosion gofal a mabwysiadu
Mae gan Matthew brofiad sylweddol mewn gweithredu i bob parti sydd ynghlwm mewn achosion gofal, mabwysiadu (gan gynnwys dirymu) a gwarchodaeth arbennig.
Mae Matthew’n ymddangos o flaen pob lefel tribiwnlys gan gynnwys y Llys Apêl ac mae’n ymgymryd yn gyson â materion cymhleth heb fantais y Cwnsler Arweiniol.
Mae gan Matthew wybodaeth fanwl am y materion cyfreithiol a gofal cymdeithasol yn ymwneud â chynllunio awdurdod lleol a gwneud penderfyniadau i blant. Mae Matthew’n ymgymryd â swm sylweddol o waith i’r Awdurdodau Lleol mwyaf yng Nghymru ac mae wedi ennyn hyder sawl Pennaeth Gwasanaeth.
Mae gan Matthew brofiad yn y meysydd canlynol:
- Anaf corfforol difrifol gan gynnwys anaf pen heb fod yn ddamweiniol
- Camdriniaeth rywiol
- Salwch ffug ac wedi’i achosi
- Rhoi gwybod am orchmynion cyfyngu
- Rhyddhad gwaharddol dan yr awdurdodaeth hanfodol
- Materion datgelu ac imiwnedd budd y cyhoedd yn ymwneud â phlant gan gynnwys gwrandawiadau ar y cyd yn Llys y Goron
- Radicaleiddio
- Ceisiadau dan Frwsel II Diwygiedig / Confensiwn Hague
Penderfyniadau’r Llys Amddiffyn / Buddiannau Gorau
Ymestynna ymarfer Matthew ystod lawn y gyfraith galluedd meddyliol a’r rhyngwyneb rhwng Deddf Iechyd Meddwl 1983 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005.
Cafodd Matthew gyfarwyddyd yn ddiweddar ar ran CAFCAS Cymru mewn perthynas â mater yn ymwneud â thynnu triniaethi blentyn 6 mis oed yn ôl.
Argymhellion
Cydnabyddir Matthew yn rheolaidd yn ‘The Legal 500’.
Achosion nodedig:
- Bwrdd Iechyd Lleol v Y (Plentyn) ac Eraill [2016] EWHC 206 (Fam) Barnau (17/02/2016) Barn fer o Baker J dan yr awdurdodaeth gynhenid sy’n caniatáu cais ymddiriedolaeth iechyd i dynnu’n ôl triniaeth feddygol a roddwyd i fabi 6 mis oed gyda difrod helaeth i’r ymennydd, parlys ac a oedd wedi dioddef sawl ataliad ar y galon
- P -S (Plant) [2013] EWCA Civ 223 Barnau (22/03/2013) Apêl gan blentyn y gwadwyd cyfle iddo roi tystiolaeth ar lafar mewn achosion gofal. Gollyngwyd yr apêl
- H v Dinas a Sir Abertawe [2011] EWCA Civ 195 Barnau (10/03/2011) Apêl mewn achosion gofal gan fam yn erbyn canfod ffeithiau y dylai gael ei chynnwys mewn cronfa o gyflawnwyr posibl. Caniatawyd yr apêl
- W (Plentyn) [2010] EWCA Civ 321 Barnau (05/04/2010) Cais gan fam am ganiatâd i apelio, gydag apêl i ddilyn, gorchymyn gofal interim. Gwrthodwyd y cais.
- B (Plant) [2008] EWCA Civ 835 Barnau (22/07/2008) Cais gan rieni am ganiatâd i apelio, gydag apêl i ddilyn, gorchmynion gofal a lleoliad. Caniatawyd yr apêl
- AJ (Plentyn) [2007] EWCA Civ 55 Barnau (12/02/2007) Apêl gan rieni yn erbyn gorchymyn yn cael gwared ar yr angen am eu caniatâd i fabwysiadu ar y sail ei fod yn cael ei ddal yn ôl yn afresymol. Gollyngwyd yr apêl
- Parthed Y (Caniatâd i Dynnu o Awdurdodaeth) [2004] 2 FLR 330
Dyfarniadau
- Ysgoloriaeth yr Arglwydd Ustus Holker Gray’s Inn
Seminarau a darlithoedd
Mae Matthew’n aml yn rhoi hyfforddiant i dwrneiod a gweithwyr cymdeithasol awdurdodau lleol a darlithoedd mewn seminarau siambrau. Yn y gorffennol diweddar, mae wedi siarad am bynciau fel proses gwneud penderfyniadau awdurdodau lleol, adeiladau awdurdodau lleol, trothwy a chanfod ffeithiau, gorchmynion gwarchodaeth arbennig a dirymu gorchmynion mabwysiadu.