Gweinyddiaeth

Nod Aelodau a Chlercod Siambrau Angel yw darparu gwasanaeth o'r safon uchaf bob amser, i'n holl gleientiaid proffesiynol a lleyg. I gynnal y safonau hynny, mae gennym systemau cyfrifiadurol a gweinyddol o'r radd flaenaf, er mwyn sicrhau cyfathrebu chwim rhwng y Clercod ac Aelodau'r Siambrau.

Mae ystafell y Clercod wedi'i staffio rhwng 8:30 a.m. a 6:00 p.m. o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae ein tîm ymroddgar yn brofiadol yn holl feysydd gwaith clercio a gweinyddiaeth. Mae pob un ohonynt yn barod i ateb ymholiadau am unrhyw agwedd ar waith y Siambrau a byddant yn ymdrechu i'ch helpu yn hynny o beth. Os hoffech ymweld â'n Siambrau i weld yr hyn sydd ar gael, cysylltwch â'n Clercod os gwelwch yn dda.

Ceisiwn osgoi dychwelyd papurau, ond pan fo hynny'n anorfod, byddwn bob amser yn ceisio canfod achosion o'r fath yn gynnar, ac yn ymgynghori â'r cleient proffesiynol bob tro, er mwyn delio â'r gwaith.

Mae gennym system ar waith i sicrhau y byddwn yn dychwelyd papurau'n brydlon, o fewn terfynau amser penodedig. Pennir ffioedd ar ddechrau'r broses, ac maent yn seiliedig ar natur a chymhlethdod y gwaith, ac arbenigedd neu hynafedd y Cwnsler a benodir.

Angel Chambers Administration
Michael Dean
Clare Dollard
Jennifer Davies
Michael Carey
Robin Whinnett
Gill Heinrich