Sifil

Mae'r Tîm Sifil yn cynnwys 9 ymarferwr, a blynyddoedd eu galwad yn amrywio o 1987 - 2008.

Gall Siambrau Angel ddarparu Tîm Sifil â phrofiad helaeth ym mhrif feysydd anaf personol, esgeulustod clinigol, masnach, cyflogaeth, siawnsri a chyfraith eiddo. Ein nod yw cynnig cyngor ymarferol a gwasanaeth proffesiynol.

Mae Siambrau Angel yn adnabyddus yn lleol, ac yn meddu ar enw da am gynnig gwasanaeth ardderchog i gleientiaid proffesiynol a lleyg ac am ddiogelu eu cyfrinachedd bob amser.

Gall y Tîm Sifil fanteisio ar gyfleusterau cynadledda mawr a modern o'r radd flaenaf, gan gynnwys cyswllt fideo-gynadledda uniongyrchol o'r Siambrau. Mae'r cyfleusterau'n arbennig o addas ar gyfer cyfarfodydd setliadau ar y cyd ac anghenion cynadledda mawr eraill, gan gynnwys seminarau.

Mae aelodau'r tîm yn ymgymryd â gwaith sifil ar draws sbectrwm yr Uchel Lys, Llysoedd Sirol, Tribiwnlysoedd, Cwestau, ADR ac Eiriolaeth. Rydym yn delio'n rheolaidd ag achosion amldrac, llwybr carlam ac achosion hawliadau bychain.

Mae aelodau'r tîm yn aml yn ymgymryd â gwaith o dan yswirwyr treuliau cyfreithiol, y CFA a chyfarwyddiadau preifat.

Cynigiwn wasanaeth cynghori, drafftio ac eiriolaeth yn y meysydd arbenigedd canlynol:

Anaf personol

Mae ystod y gwaith yn cynnwys holl agweddau gwaith anaf personol, gan gynnwys setliadau strwythuredig a setliadau plant. Mae aelodau'r tîm yn ymgymryd â gwaith hawliwr a diffynnydd ac yn delio ag unigolion, cwmnïau, Awdurdodau Lleol ac Undebau Llafur. Mae gan y tîm ystod eang o arbenigedd mewn achosion damweiniau yn y gwaith, anghydfodau esgeulustod troseddol, cyfreitha ynghylch afiechydon a gwenwyno, cyfreitha grwp, cyfreitha yswiriant, hawliadau priffyrdd, damweiniau ffordd, hawliadau damwain angheuol, hawliadau esgeulustod proffesiynol a hawliadau straen yn y gwaith.

Masnachol

Mae gan aelodau'r tîm brofiad o ddelio â chyfreitha masnachol o bob math. Gallwn gynnig cyngor a sgiliau eiriolaeth ar ystod eang o anghydfodau masnachol yn cynnwys cwmnïau, partneriaethau ac unigolion. Mae'r prif feysydd arbenigedd yn cynnwys materion yn ymwneud â methdaliad, gwerthu a chyflenwi nwyddau, credyd cwsmeriaid a chredyd masnachol, camweddau masnachol a dehongli contractau masnachol. Mae cynadleddau yn ein cyfleusterau modern yn creu argraff fawr ar ein cleientiaid masnachol yn arbennig.

Siawnsri ac Eiddo

Gall aelodau'r tîm gynnig arbenigedd ym mhob mater sy'n ymwneud ag eiddo, o rai masnachol i anghydfodau landlord a thenant preifat, anghydfodau am ffiniau, meddiant gwrthwynebus, anghydfodau hawddfraint a hawl tramwy, ewyllysiau, ymddiriedolaethau, Deddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr (TOLATA), anghydfodau cynllunio, adeiladu a'r amgylchedd. Rydym yn delio â phob math o hawliadau yng nghyfreithiau niwsans, camwedd ac esgeulustod; gan gynnwys esgeulustod proffesiynol gan syrfewyr a phenseiri. Gallwn gynnig ystod gyflawn o wasanaethau, o ddrafftio contractau, i'w dehongliad ac yna'u gweithrediad.

Ein Nod

Fel arfer, bydd y Tîm Sifil yn dychwelyd gwaith papur o fewn 14 diwrnod ar ôl ei dderbyn. Os bydd y terfyn amser hwn yn anodd, hysbysir ein cyfreithwyr dan gyfarwyddyd gan y cwnsler yn syth, cyn y terfyn amser. Gellir derbyn a dychwelyd cyfarwyddiadau'n electronig.

Gallwn gynnig tîm effeithlon, ymarferol a chystadleuol o ymarferwyr sifil, sy'n gweithio o gyfleusterau modern o'r radd flaenaf.

Gellir cytuno ar ffioedd gyda'r clercod ar drefniant o flaen llaw, a gellir negydu dyfynbrisoedd sefydlog neu fesul awr, yn ôl yr angen.

Mae'r Tîm Sifil yn cynnwys 2 siaradwr Cymraeg rhugl.

Members of Angel Chambers
Alison Donovan
Phillip Harris-Jenkins
Dominic Boothroyd
David Blake
Cenydd Richards
Richard Steer
Mark Monaghan
Lucy Leader
Jake Pratt
Clare Templeman
Simon Stephenson
Laura Leavesley
Kate Smith
Cadi Dewi