Ymwadiad Cyfreithiol

Set siambrau bargyfreithwyr yw Siambrau Angel. Nid oes gan y Siambrau hunaniaeth gyfreithiol gyfunol o unrhyw fath; mae'r holl fargyfreithwyr sy'n ymarfer o'r set hon yn unigolion hunangyflogedig. Gyda chytundeb y bargyfreithwyr yn y siambrau hyn, paratowyd y wefan hon er gwybodaeth yn unig. Nid barnau'r Siambrau, o angenrheidrwydd, ac eithrio'r awdur, fydd unrhyw farnau a fynegir neu sylwadau a wneir ar y gyfraith mewn erthyglau, sylwebaeth neu nodiadau ar y wefan hon.

Ni all aelodau'r Siambrau, fel cyfreithwyr unigol, gynnig cyngor i berson neilltuol ar fater neu achos penodol heb gael cyfarwyddyd i wneud hynny gan un o'r canlynol: cyfreithiwr, cyfreithiwr tramor cymwys neu aelod o gorff proffesiynol cydnabyddedig a gymeradwyir gan Gyngor y Bar at ddibenion gwaith mynediad proffesiynol uniongyrchol, neu gleient mynediad cyhoeddus.

Darperir gwybodaeth ac unrhyw sylwebaeth ar y gyfraith ar y wefan hon yn ddi-dâl, at ddibenion gwybodaeth yn unig. Gwneir pob ymdrech resymol i sicrhau bod yr wybodaeth a'r sylwebaeth yn gyfredol ar adeg eu hysgrifennu, ond ni fydd unrhyw un o aelodau'r Siambrau'n derbyn cyfrifoldeb am eu huniondeb a'u cywirdeb, nac am ganlyniadau'n deillio o ddefnyddio'r wybodaeth. Nid yw, ac ni fwriadwyd i'r wybodaeth a'r sylwebaeth fod yn gyngor cyfreithiol i unrhyw berson ar achos neu fater penodol, ac ni ddylid dibynnu ar yr wybodaeth na'r sylwadau ar y wefan hon.