Aelodau'r Siambrau

Mae Aelodau'r Siambrau'n ceisio sicrhau eu bod ar gael i Gyfreithwyr a Chleientiaid ar adegau cyfleus.

Mae'r Cwnsleriaid yn barod i ymgymryd â gwaith ar y Gylchdaith a thu hwnt. Gellir trefnu cynadleddau yn y Siambrau neu mewn lleoliadau eraill sy'n fwy cyfleus i gleientiaid proffesiynol a lleyg.

Sylweddolwn fod cyfleusterau cynadledda cyfforddus a phroffesiynol yn hanfodol ac rydym yn falch o gynnig detholiad o ystafelloedd cynadledda, sy'n addas i 2 neu hyd at 100 o bobl. Mae'r adeilad hefyd yn cynnwys caffe, sydd ar gael i'n holl gleientiaid.

Gellir trefnu parcio preifat diogel i ymwelwyr â'n hadeilad; cysylltwch â'n Clercod i gadw lle parcio ac i gael map a chyfarwyddiadau.

Rydym nawr yn defnyddio Ebost Diogel. Cysylltwch â'n Clercod am ragor o wybodaeth, neu e-bostiwch clercod@siambrauangel.co.uk.cjsm.net

Mae Siambrau Angel yn set flaengar. Mae ein Haelodau a'n Clercod yn ymdrechu'n barhaus i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cleientiaid.

Mae gan bob Aelod broffil ar y wefan hon. Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Aelod o dan sylw neu siaradwch ag un o'n Clercod.

Members of Angel Chambers
Geraint Walters Rhys Jones
Jim Davis Cenydd Richards
Christopher Clee CF Janet Gedrych
Ieuan Rees Glenda Owen
Susan Campbell CF Mark Monaghan
Andrew Clemes Lucy Leader
Alison Donovan
Carina Hughes
Joanna Wood Jake Pratt
Phillip Harris-Jenkins Clare Templeman
Dominic Boothroyd Simon Stephenson
Laura Leavesley
David Blake
Dyfed Thomas Kate Smith
Elizabeth Harris Cadi Dewi
Dean Pulling Angela Ricciardi
Sharon James Gwilym Roberts-Harry
Matthew Rees Catrin Jenkins
Christopher James Lowri Wynn Morgan
Ian Ibrahim James Hartson
Christina Chinnock
Sabina Khan
Susan Jenkins