Andrew Clemes

Galwyd i'r Bar ym 1984 - Gray's Inn

Maes Ymarfer - Trosedd

Mae Andrew Clemes yn Ymarferwr Trosedd arbenigol, sydd wedi hen ennill ei blwyf. Mae ganddo brofiad o erlyn ac amddiffyn, gan gynnwys achosion yn ymwneud â Thollau Tramor a Chartref EM, yr Adran Gwaith a Phensiynau, yr Adran Masnach a Diwydiant, ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

Mae Andrew hefyd yn diwtor yn Ysgol Gyfraith Prifysgol Abertawe, lle y mae hefyd yn Gyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol.