Angela Ricciardi
(BA Anrhydedd)
Galwyd i'r Bar yn 2008 - Gray's Inn
Meysydd Ymarfer - Teulu, Troseddol, Sifil
Yn wreiddiol, astudiodd Angela gradd gydanrhydedd yn Llenyddiaeth Saesneg a Beirniadaeth Ddiwylliannol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac ennillodd Angela gradd anrhydedd 2:1 yn 2005. Gwobrwywyd Angela â chanmoliaeth yn y Diploma Raddedig yn y Gyfraith o Brifysgol Morgannwg.
Cyflawnodd Angela Gwrs Galwedigaethol y Bar yn Ysgol Gyfraith Caerdydd, lle'r ennillodd gradd gyflawn Ragorol gyda marciau rhagorol mewn nifer o fodiwlau, gan gynnwys eiriolaeth, cyfraith teuluol a drafftio.
Ymunodd Angela â Siambrau Angel yn denant ym mis Medi 2010 ar ôl cwblhau tymor prawf ym maes Teulu (Matthew Rees) a Throsedd (Dyfed Thomas). Mae Angela yn datblygu practis prysur ac amrywiol, ac yn derbyn cyfarwyddid ymhob maes o'r gyfraith.
Teulu
Mae gan Angela bractis teulu cynyddol sy'n cwmpasu materion cyfraith breifat a chyfraith gyhoeddus. Yn enwedig, mae gan Angela brofiad o arwain grandawiadau interim a therfynol a ymleddir parthed materion sy'n ymwneud â phreswylfeydd preifat a chyswllt yn y Llys Achosion Teuluol a'r Llys Sirol. Caiff Angela gyfarwyddyd rheolaidd i ymgymryd â cheisiadau am waharddebau, gan gynnwys ceisiadau ex parte, ac mae hi'n ymddangos ar ran Ymgeiswyr ac Ymatebwyr yn rheolaidd. Caiff Angela ei chyfarwyddo'n fwyfwy mewn achosion cyfraith gyhoeddus, ac mae hi wedi ymddangos ar ran rhieni ac ymyrrwyr mewn achosion gofal, gan gynnwys achosion argyfwng. Mae practis Angela yn cynnwys materion llareiddiad ategol, ac mae hi wedi ymddangos ar ran Ymgeiswyr ac Ymatebwyr mewn grandawiadau sydd yn ymwneud â chyfarwyddiadau rheoli achosion a grandawiadau terfynol.
Trosedd
Mae Angela yn derbyn cyfarwyddyd yn ymwneud â holl agweddau Cyfraith Trosedd, ac yn cynrychioli'r Erlyniad a'r Amddiffyniad yn rheolaidd . Mae ganddi brofiad o gynnal achosion yn Llys yr Ynadon ac yn Llys y Goron mewn amrywiaeth o droseddau, gan gynnwys ymosodiadau, troseddau cyffuriau, lladrad a throseddau modurol. Mae Angela hefyd yn ymddangos yn Llys y Goron ar faterion sy'n cynnwys ceisiadau am fechnïaeth, grandawiadau rhagarweiniol, grandawiadau ple a chyfarwyddiadau rheoli, grandawiadau dedfrydu, ceisiadau o dan Ddeddf Elw Troseddau, ac apeliadau yn erbyn euogfarnau a dedfrydau.
Mae Angela wedi'i chyfarwyddo i erlyn ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau, a bu'n ymddangos ar ran Ymgeiswyr mewn Tribiwnlysoedd Budd-daliadau mewn achosion sy'n ymwneud ag apelio yn erbyn darfyddiad budd-daliadau neu gwrthodiad budd-daliadau. Mae Angela hefyd yn erlyn yn rheolaidd yn Llys yr Ynadon ac yn Llys y Goron ar ran monitro SERCO parthed torcyfraith yn ymwneud â gofynion tagio electronig o dan orchymyn cyrffiw.
Sifil
Derbynia Angela gyfarwyddiad ymhob agwedd o gyfreitha sifil, a mae
Angela'n ymddangos yn rheolaidd yn y Llys Sirol ar ran Hawlwyr a Diffynyddion.
Mae ganddi brofiad yn cynnal amrywiaeth o wrandawiadau sy'n cynnwys
setliadau ar ran mabanod, ceisiadau am ddyfarniad diannod, ceisiadau
i osod dyfarniad o'r naill du, a threialon hawliadau bychain a ymleddir.
Mae ganddi hefyd brofiad o ddelio â materion sy'n ymwneud ag anafiadau
personol a gwrthdrawiadau traffig y ffyrdd, yn ogystal â materion
tor-contract mwy cyffredin.
Cyn cychwyn ei thymor prawf, treuliodd Angela flwyddyn yn gweithio fel
eiriolwraig yn y Llys Sirol yn arbenigo mewn achosion adfeddiant dyled.
Yn ystod y cyfnod yna, magwyd profiad eang yn ymwneud â gwrandawiadau
a ymleddir o flaen Barnwyr Rhanbarth mewn materion yn cynnwys meddiannau
morgeisi, gorchmynion tâl, gwrandawiadau methdaliad, setliadau
ar ran mabanod, gorchmynion i werthu, ceisiadau dyfarniadau diannod,
ceisiadau i osod dyfarniad o'r naill du, a gwrandawiadau yn ymwneud
â chytundebau rheoleiddiedig o dan Ddeddf Credyd i Ddefnyddwyr.
Mae Angela'n aelod o'r cymdeithasau canlynol:
Cymdeithas Cyfraith Teulu'r Bar
Cymdeithas Cyfraith Droseddol y Bar
Aelod o Gymdeithas Anaf Personol y Bar
Uned Pro Bono y Bar








