Cadi Dewi (LLB Anrhydedd)

Galwyd i'r Bar yn 2008 - Gray's Inn

Meysydd Ymarfer - Teulu, Trosedd, Sifil

Ymunodd Cadi â'r siambrau yn denant ar ôl cwblhau tymor prawf llwyddiannus ym mis Gorffennaf 2009 ym maes Trosedd (Geraint Walters) a Theulu (Libby Harris). Astudiodd Cadi'r Gyfraith a'r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd a chwblhaodd Gwrs Galwedigaethol y Bar yn Ysgol Gyfraith Caerdydd, lle'r enillodd 10 marc Rhagorol a gradd gyflawn Ragorol. Enillodd Wobr Siambrau Temple am berfformiad rhagorol ym maes eiriolaeth, ac fe'i galwyd i'r Bar ym mis Gorffennaf 2008 gan Gray's Inn.
Mae Cadi'n siarad Cymraeg yn rhugl ac wedi cynnal achosion trwy gyfrwng y Gymraeg. Cwblhaodd gwrs Eiriolaeth Gymreig yn llwyddiannus yn Ysgol Gyfraith Caerdydd, ac mae hi'n hapus i dderbyn cyfarwyddyd yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Trosedd
Caiff Cadi gyfarwyddyd rheolaidd i ymgymryd â gwaith Erlyn ac Amddiffyn, ac mae ganddi brofiad o gynnal achosion yn llys yr Ynadon ac yn llys y Goron. Mae hi'n ymgymryd â holl agweddau Cyfraith Trosedd, a bydd yn aml yn ymddangos yn Llys y Goron ar faterion sy'n cynnwys ceisiadau am fechnïaeth, gwrandawiadau dedfrydau, torcyfraith ac apeliadau yn erbyn euogfarnau a dedfrydau. Mae ganddi brofiad o arwain treialon rheithgor a bydd yn ymddangos yn rheolaidd ar ran y Goron a'r Amddiffyniad mewn achosion voire dire.
Caiff Cadi gyfarwyddyd rheolaidd gan SERCO i erlyn toriadau tagio electronig, a chan yr Adran Gwaith a Phensiynau ynglyn â materion budd ariannol. Mae hi hefyd yn ymgymryd â gwrandawiadau mewn perthynas â Deddf Elw Troseddau 2002 ac mae ganddi brofiad o ddelio â throseddwyr ifanc yn y Llysoedd Ieuenctid.

Teulu
Mae practis teulu Cadi'n cwmpasu materion cyfraith breifat a chyfraith gyhoeddus. Mae ganddi brofiad o arwain ceisiadau am waharddebau a gwrandawiadau a ymleddir, yn enwedig gwrandawiadau terfynol parthed materion yn ymwneud â phreswylfeydd preifat a chyswllt, lle mae'n ymddangos ar ran yr Ymgeiswyr a'r Ymatebwyr. Mae hi'n datblygu practis yn gyflym mewn achosion Deddf Plant, ac fe'i cyfarwyddir ar ran rhieni a gwarcheidwaid mewn achosion gofal. Mae Cadi'n derbyn cyfarwyddiadau ym materion llareiddiad ategol yn ogystal â cheisiadau am waharddebau.

Sifil
Mae Cadi'n derbyn cyfarwyddyd mewn amrywiaeth eang o gyfreitha sifil. Fe'i gwelir yn rheolaidd yn y Llys Sirol yn ymdrin ag ystod o faterion sifil o setliadau ar ran mabanod i dreialon hawliadau bychain a threialon llwybr carlam, yn enwedig ym maes hawliadau anaf personol. Bydd hefyd yn ymddangos mewn tribiwnlysoedd Mewnfudo a Budd-daliadau.

Mae Cadi'n aelod o'r cymdeithasau canlynol:
Uned Pro Bono y Bar
Cymdeithas Cyfraith Droseddol y Bar
Cymdeithas Cyfraith Teulu'r Bar