Catrin Jenkins
(LLB Anrhydedd)
Galwyd i'r Bar yn 2010 - Gray's Inn
Meysydd Ymarfer - Teulu, Sifil, a Throsedd
Ymunodd Catrin â Siambrau yn denant ym mis Medi 2011 ar ôl
cwblhau tymor prawf llwyddiannus o dan oruchwyliaeth Libby Harris.
Addysg a Chymwysterau
Astudiodd Catrin y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, lle'r ennillodd
radd 2:1, cyn astudio Cwrs Galwedigaethol y Bar yn Ysgol Gyfraith Caerdydd,
lle'r ennillodd radd gyflawn Rhagorol.
Mae Catrin yn siarad Cymraeg yn rhugl, a chwblhaodd Gwrs Eiriolaeth Gymraeg yn llwyddiannus yn Ysgol Gyfraith, Caerdydd. Mae Catrin yn hapus i dderbyn cyfarwyddyd yn y Gymraeg.
Teulu
Mae Catrin yn derbyn cyfarwyddyd mewn materion cyfraith breifat a chyfraith
gyhoeddus. Caiff Catrin gyfarwyddyd rheolaidd i ymgymryd â gwaith
ar ran Ymgeiswyr ac Ymatebwyr, ac mae Catrin wedi ymddangos ar ran rhieni
mewn achosion gofal. Mae ganddi brofiad o arwain achosion interim a
therfynol yn y Llys Achosion Teuluol a'r Llys Sirol. Mae Catrin hefyd
yn derbyn cyfarwyddid mewn materion sy'n ymwneud â cheisiadau
am waharddebau a materion llareiddiad ategol.
Sifil
Mae Catrin yn derbyn cyfarwyddid mewn amrywiaeth o faterion sifil, ac
mae hi'n ymgymryd â gwaith ar gyfer hawlwyr ac ymatebwyr. Mae
hi yn ymddangos yn rheolaidd yn y Llys Sirol yn ymdrin â threialon,
gwrandawiadau methdaliad, grandawiadau meddiannau, a cheisiadau interim.
Mae Catrin hefyd yn derbyn cyfarwyddid mewn cyfraith cyflogaeth a materion
yn ymwneud â'r tribiwnlys budd-daliadau nawdd cymdeithasol. Mae
practis gwaith papur Catrin yn cynnwys drafftio plediadau ac ysgrifennu
cynghorau ar ymddiriedolaethau, cyfraith amaethyddol, materion landlord
a thenant, anafiadau personol, ac anghydfodau contract.
Trosedd
Caiff Catrin gyfarwyddyd rheolaidd i ymgymryd â gwaith Erlyn ac
Amddiffyn yn Llys y Goron a Llys yr Ynadon, ac y mae hi yn ymgymryd
â holl agweddau Cyfraith Trosedd. Mae Catrin wedi arwain nifer
o dreialon diannod yn ymwneud ag amrywiaeth o droseddau, ac y mae hi'n
ymddangos yn Llys y Goron yn rheolaidd mewn materion sy'n cynnwys apeliadau
yn erbyn euogfarnau a dedfrydau, ceisiadau am fechnïaeth, a dedfrydau.
Yn ogystal, caiff Catrin gyfarwyddyd rheolaidd gan SERCO i erlyn toriadau
gofynion tagio electronig o dan orchymyn cyrffiw yn Llys y Goron a Llys
yr Ynadon.
Aelodaeth
Mae Catrin yn aelod o'r cymdeithasau canlynol:
Cymdeithas Cyfraith Teulu'r Bar
Cymdeithas Cyfraith Droseddol y Bar
Uned Pro Bono y Bar.








