Clare Templeman

Galwyd i'r Bar yn 2004 - Y Deml Fewnol

Meysydd Ymarfer - Teulu a Sifil

Ar ôl graddio o Brifysgol Cymru Abertawe, bu Clare yn astudio Cwrs Galwedigaethol y Bar ym Mhrifysgol Caerdydd, lle'r enillodd Radd Dra Chymwys gyda marciau Rhagorol mewn llawer o fodiwlau. Ymunodd Clare â Siambrau Angel ym mis Ionawr 2006 ar ôl cwblhau ei chyfnod prawf yn llwyddiannus.

Yn bennaf, mae Clare yn ymarfer ym maes Cyfraith Teulu a bydd yn ymddangos yn rheolaidd gerbron y Llys Achosion Teuluol a'r Llys Sirol, gan gynrychioli Awdurdodau Lleol, Rhieni a Gwarcheidwaid mewn achosion cyfraith breifat a chyfraith gyhoeddus. Mae Clare hefyd yn ymgymryd â gwaith o dan y Ddeddf Cyfraith Teulu a'r Ddeddf Mabwysiadu a Phlant.

Mae Clare hefyd yn gwneud gwaith sifil cyffredinol.

Aelod o Gymdeithas Cyfraith Teulu y Bar
Aelod o Gymdeithas Anaf Personol y Bar.