Dominic Boothroyd

Galwyd i'r Bar 1991 - Y Deml Fewnol.

Maes Ymarfer - Teulu a Sifil

Mae Dominic wedi bod yn ymarfer ers cael ei alw i'r bar ym 1991. Cyn dychwelyd i'r bar annibynnol yn 2006, bu Dominic yn bennaeth cyfraith gofal plant i un o awdurdodau lleol mwyaf Cymru.

Gan ymarfer i ddechrau ym maes cyfreitha sifil cyffredinol gyda diddordeb arbennig mewn cyfraith tai a gwasanaethau cymdeithasol, dros y 10 mlynedd diwethaf mae Dominic wedi bod yn ymarfer ym maes cyfraith yn ymwneud â phlant.

Yn gweithredu ar ran plant, rhieni ac awdurdodau lleol, mae Dominic wedi ymgymryd ag ystod lawn o achosion yn ymwneud â gofal, gan gynnwys yr achosion mwyaf difrifol megis marwolaeth plant, cam-drin corfforol a rhywiol ac anafiadau difrifol iawn. Mae Dominic wedi cymryd rhan mewn adolygiadau o achosion difrifol a rheoli achosion amddiffyn plant. Yn fwyaf diweddar, mae Dominic wedi ymgymryd â nifer o achosion a chanddynt elfen ryngwladol fawr, megis symud plant o'r awdurdodaeth a lleoli plant gyda gwladolion tramor.

Yn rhan o'i ymarfer, mae Dominic wedi ymgymryd ag achosion Adolygiad Barnwrol yn ymwneud â darpariaeth gwasanaethau i blant a rhieni gan y llywodraeth leol a Llywodraeth y Cynulliad.

Mae Dominic wedi cymryd rhan mewn nifer o geisiadau am ddatganiadau a llareiddio gwaharddebau o dan y ddeddfwriaeth Hawliau Dynol, gan weithredu ar ran rhieni a phlant.

Er mwyn datblygu meysydd adolygu barnwrol a chyfraith hawliau dynol yn rhan o'r canllawiau gofal plant i ymarferwyr teulu, mae Dominic wedi darlithio ar ddefnyddio'r prosesau hyn i sicrhau canlyniadau llwyddiannus i gleientiaid, cyn achosion ac ar ôl eu cwblhau.

Mae Dominic hefyd wedi gweithredu ar ran rhieni mewn ystod lawn o achosion plant preifat, gan gynnwys achosion lle y gwneir honiadau difrifol gan un rhiant yn erbyn y llall. Yn rhan o'r gwaith hwn, bu Dominic yn Gwnsler yn ymwneud â'r penderfyniad arweiniol ynglyn â gorchmynion rhannu dyletswyddau rhianta a rhannu man preswyl, a chyfrannodd at Hershman & McFarlane.

Yn ogystal ag achosion sy'n ymwneud yn uniongyrchol â phlant, mae Dominic hefyd yn ymgymryd â'r ystod lawn o waith llareiddiad ategol. Ac yntau wedi ymarfer am flynyddoedd yng nghanolbarth Cymru, mae Dominic wedi bod yn ffodus i gael profiad o gymryd llawer o achosion yn ymwneud â ffermio a busnesau â chysylltiad amaethyddol.