Dean Pulling
LLB (Anrhydedd) (Cymru)
Galwyd i'r Bar ym 1993 - Y Deml Ganol.
Maes Ymarfer - Trosedd
Mae gan Dean Pulling brofiad helaeth o holl agweddau Cyfraith Trosedd,
o erlyn ac amddiffyn.
Mae'n amddiffyn achosion sy'n ymwneud â dynladdiad, troseddau
rhywiol difrifol, twyll a chynllwynion ar raddfa fawr yn ymwneud â
chyffuriau.
Mae'n Erlynydd categori 4 i Wasanaeth Erlyn y Goron. Y mae hefyd yn
cynnal erlyniadau ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Swyddfa Erlyn
Cyllid a Thollau, Adran Gwaith a Phensiynau, Awdurdod Gweithredol Iechyd
a Diogelwch, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Awdurdodau Lleol mewn materion
yn ymwneud â Safonau Masnach. Bu gynt yn ymarfer yn Siambrau Iscoed,
Abertawe, am 10 mlynedd, ac ymunodd Dean â Siambrau Angel ym mis
Hydref 2009.
Mae'n aelod o Gymdeithas y Bar Troseddol.








