LLB (Anhrydedd) (Cymru), LLM (Prifysgol Bryste)
Galwyd i'r Bar yn 2002 - Gray's Inn
Maes Ymarfer - Teulu
Mae Glenda Owen yn ymarfer yn gyfan gwbl ym maes cyfraith teulu. Mae ei meysydd ymarfer yn cynnwys pob cais Cyfraith Breifat parthed y Ddeddf Plant, achosion yn ymwneud â thrais teuluol ac achosion o symud o'r awdurdodaeth. Mae Glenda hefyd yn delio â phob agwedd ar achosion Cyfraith Gyhoeddus, gan gynnwys ceisiadau lleoli a mabwysiadu. Mae'n derbyn cyfarwyddiadau ar ran Awdurdodau Lleol, rhieni a phlant.
Mae Glenda'n aelod o Gymdeithas Cyfraith Teulu'r Bar a Chymdeithas Cyfraith Gyhoeddus a Hawliau Dynol Cymru.
Mae Glenda'n siarad Cymraeg yn rhugl ac mae ganddi brofiad o arwain
achosion yn y Gymraeg.








