Meysydd Ymarfer - Trosedd,Teulu, Sifil
Addysg
2008 Galwyd i'r Bar o Gray's Inn
2007-2008 Cwrs Galwedigaethol y Bar yng Ngholeg y Gyfraith, Llundain
(Gradd Dra Chymwys)
2003-2007 LLB Y Gyfraith, Ffrangeg a Chyfraith Ffrengig, Prifysgol Caerlyr
(2:1)
2005-2006 Diplôme d'Études Juridiques Français,
Université Robert Schuman
1996-2003 Ysgol Gyfun Bro Myrddin, Caerfyrddin
Darllennodd Gwilym y Gyfraith, Ffrangeg, a Chyfraith Ffrengig ym Mhrifysgol Caerlyr, lle'r ennillodd anrhydeddau 2:1. Yn ogystal, astudiodd Gwilym Cyfraith Ffrengig yn Université Robert Schuman yn Strasbourg, lle'r ennillodd y Diplôme d'Études Juridiques Français. Cyflawnodd Gwilym Gwrs Galwedigaethol y Bar yn llwyddiannus yng Ngholeg y Gyfraith, Llundain lle'r ennillodd Gradd Dra Chymwys, gyda gradd Rhagorol yn Cyfreitha Trosedd Uwchraddol.
Ymunodd Gwilym â Siambrau Angel ym mis Medi 2010 ar ôl cwblhau tymor prawf llwyddiannus a oedd wedi'i oruchwylio gan Dyfed Thomas ym maes Trosedd, a Matthew Rees ym maes Teulu. Yn ystod ei dymor prawf, gwnaeth Gwilym gwaith ysgrifinedig sifil i aelodau arall o'r Siambrau.
Trosedd
Caiff Gwilym ei gyfarwyddo'n aml i gynrychioli'r Erlyniad a'r Amddiffyniad mewn gwrandawiadau yn Llys yr Ynadon ac yn Llys y Goron. Mae Gwilym wedi erlyn treialau ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron yn Llys yr Ynadon yn ogystal â threialau ar ran SERCO parthed torcyfraith yn ymwneud â gofynion tagio electronig o dan orchymyn cyrffiw. Mae Gwilym hefyd wedi cynrychioli diffynyddion sydd yn wynebu amrywiaeth o droseddau yn cynnwys materion rheoleiddiol, er enghraifft, Safonau Masnachu a Lles Anifeiliaid.
Teulu
Derbynia Gwilym gyfarwyddyd rheolaidd i gynrychioli Ymgeiswyr ac Ymatebwyr mewn materion cyfraith breifat sy'n ymwneud â cheisiadau phreswylfeydd a chyswllt. Mae gan Gwilym brofiad o wrandawiadau interim a ymleddir yn ogystal â cheisiadau argyfwng. Mae Gwilym ar hyn o bryd yn datblygu practis cyfraith gyhoeddus, a derbynia Gwilym gyfarwyddid mewn materion ariannol priodasol.
Sifil
Caiff Gwilym gyfarwyddyd mewn gwrandawiadau hawliadau bychain sy'n ymwneud â gwrthdrawiadau traffig y ffyrdd a llogi credyd, yn ogystal â gwrandawiadau sy'n amrywio o faterion lanlord a thenant i setliadau ar ran mabanod. Cyn cychwyn ei dymor prawf, gweithiodd Gwilym fel eiriolwr yn y Llys Sirol yn Llundain, ac fe gynhaliodd gwrandawiadau yn ymwneud â meddiannau morgeisi, gorchmynion tâl, ceisiadau i osod dyfarniadau o'r naill du a methdaliant. Er bod llawer o bractis Gwilym yn y llys, mae Gwilym hefyd yn fodlon drafftio neu cynghorio ar bapurau fel sydd angen iddo wneud.
Mae Gwilym yn siarad Cymraeg yn rhugl, ac yn hapus i dderbyn cyfarwyddyd
yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Diddordebau
Mae Gwilym yn hoff iawn o chwaraeon ac yn mwynhau chwarae pel-droed i'w dim lleol. Mae Gwilym hefyd yn mwynhau mynd i weld cerddoriaeth fyw a teithio. Cyn derbyn tenantiaeth yn Siambrau Angel, gweithiodd Gwilym fel Cynorthwywr Seneddol i Aelod o'r Senedd Ewropeaidd yn Strasbourg. Yn ogystal, gwirfoddolodd Gwilym fel Oedolyn Priodol, a roedd Gwilym yn gyfrifol am gynrychioli hawliau'r ifanc yn ystod cyfweliadau'r Heddlu.
Mae Gwilym yn aelod o'r cymdeithasau canlynol:
Cymdeithas Cyfraith Droseddol y Bar
Cymdeithas Cyfraith Teulu'r Bar
Aelod o Gymdeithas Anaf Personol y Bar
Uned Pro Bono y Bar








