Geraint Walters

Llywydd Myfyrwyr y Gyfraith, Prifysgol Aberystwyth 1979-1980.
Bargyfreithiwr ieuaf Cylchdaith Cymru a Chaer 1988.
Cwnsler Anrhydeddus Pwyllgor Disgyblu Myfyrwyr Prifysgol Abertawe.
Comisiynydd Cynorthwyol i Gomisiwn Ffiniau Cymru.
Cofiadur Llys y Goron er 2001.

Maes Ymarfer - Trosedd

Ymunodd Geraint Walters â'r Siambrau ym 1982 ac fe'i hetholwyd yn Bennaeth y Siambrau yn 2002. Erbyn hyn, mae ganddo bractis sy'n canolbwyntio ar Gyfraith Trosedd, sy'n cynrychioli'r Erlyniad a'r Amddiffyniad. Mae wedi ymddangos mewn nifer o achosion pwysig gan gynnwys llofruddiaethau, achosion cam-drin plant a thwyll ariannol mawr. Fe'i cymeradwyir yn benodol gan Wasanaeth Erlyn y Goron i arwain achosion treisio.

Mae'n erlynydd categori 4 ers nifer o flynyddoedd, ac wedi arwain achosion ar ran Cyfarwyddwr yr Erlyniadau Cyhoeddus a Phenaethiaid Adrannau erlyn eraill. Fe'i cyfarwyddir yn rheolaidd gan adrannau cyfreithiol Heddlu Dyfed Powys a Heddlu De Cymru.

Mae'n siarad Cymraeg ac wedi gweithio'n ddygn i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yn y llysoedd, ac fe'i cyfarwyddir yn aml i arwain achosion fel hyn.

Mae'n aelod o Gymdeithas Trosedd y Bar ac mae'n gwasanaethu ar Fwrdd Rheoli Cylchdaith Cymru ar hyn o bryd.