James Hartson
(LLB Anrhydedd Dosbarth Cyntaf)
Galwyd i'r Bar gan yr Inner Temple - 2010
Addysg a Chymwysterau
LLB Anrhydedd Dosbarth Cyntaf (2008)
Cwrs Galwedigaethol y Bar, Prifysgol Gorllewin Lloegr (2008 - 2010)
Cyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Ystalyfera, Abertawe, ennillwyd James gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn y gyfraith a gorffennwyd ei Gwrs Galwedigaethol y Bar ym Mrifysgol Gorllewin Lloegr, lle gafodd ei asesu'n gyflawn yn rhagorol. Ennillwyd marciau rhagorol mewn Cyfreitha Trosedd Uwchraddol, Eiriolaeth Troseddol, Cyfraith Teuluol, Ymchwil Cyfreithiol a Moeseg Broffesiynol. Ennillwyd gwobrwyon oddiwrth Ysgol Gyfraith Briste a'r Inner Temple.
Profiad Blaenorol
Mae James yn dod i'r Bar yn dilyn 19 blwyddyn o brofiad fel heddwas
yn Llundain a Chaerdydd, yn cynnwys sawl blwyddyn yn y Special Branch
a ditectif yn New Scotland Yard. Mae ganddo gryn brofiad o delio gyda
troseddau difrifol iawn ac mae yn medru ddarparu mewnwelediad gwerthfawr
iawn i'r broses ymchwil. Fe wnaeth gwblhau ei ddisgybliaeth o dan Mr
Ieuan Rees.
Mae James yn siarad Cymraeg yn rhygl ac yn fodlon derbyn cyfarwyddyd yn y Gymraeg.
Trosedd
Mae James wedi ymddangos dros yr erlyniad ar amddiffynydd mewn nifer
o weithredau yn llysoedd y Goron ac Ynadon, yn cynnwys ddedfrydau, atafaelu
ac apelau yn erbyn ddedfryd ac euogrwydd. Mae ganddo brofiad o gynnal
weithredau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae James wedi cynrychiolir
ddiffynnydd mewn profion o flaen rheithgorau ynglyn a delio mewn cyffuriau
ac ymosodion difrifol. Mae James hefyd wedi ddarparu cyngor ynglyn ag
apel yn erbyn ddedfryd i'r Uwch Lys Apel.
Mae James hefyd wedi bod yn llwyddiannus yn cynrychioli ymgeision mewn achosion o dan Ddeddf Eiddo (Heddlu) a mewn apeliau yn erbyn Brif Gwnstabliaid rhag gwrthod trwyddedu drylliau.
Mae James wedi ei ganiatau i ddarparu pwyntiau CPD ynglyn a'r gyfraith troseddol.
Sifil
Mae James wedi ymddangos yn Llys y Sir gydag achosion bach ac mae'n
ddarparu cyngor ar niwedion personol a gwaelodion achosion plant.
Diddordebau
Mae James yn hoffi treilio amser gyda'i deulu a gwylio chwaraeon, yn
enwedig pel-droed a rasio moduron.
Cymdeithasau
Aelod o Gymdeithas Gyfraith Droseddol y Bar.








