Jake Pratt

Maes Ymarfer - Sifil
Galwyd i'r Bar 2004 - Lincoln's Inn

Apwyntiadau:
Barnwr i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Hawl Gymdeithasol)

Ysgoloriaethau:
Ysgolhaig Levitt (Mwyaf)(Lincoln's Inn) 2004
Ysgolhaig Hardwick (Lincoln's Inn) 2003

Addysg:
Enillodd Jake ei LLB o'r London School of Economics ym 2003 a'i BVC o Ysgol Gyfraith Neuaddau'r Frawdlys flwyddyn yn ddiweddarach. Dyfarnwyd Ysgoloriaethau Levitt (Mwyaf) a Hardwick iddo gan Lincoln's Inn a chwblhaodd ei dymor prawf yn 11 Stone Buildings.

Siawnsri ac Eiddo:
Mae Jake yn cynrychioli a derbyn cyfarwyddiadau i gynghori ar ystod o hawliadau yn ymwneud ag Eiddo, Ewyllysiau a Phrofiant a'r Deddf Etifeddu gan gynnwys hawliadau ar sail twyll a honiadau eraill o gamymddwyn difrifol.

Ymddangosai yn yr Uwch Lys a'r Llysoedd Sirol mewn materion gan gynnwys ceisiadau am tenantiaeth busnes, rhyddhad o fforfediad a materion tebyg.
Mae ganddo brofiad helaeth parthed hawliau cydbreswylwyr yn ogystal â cheisiadau am feddiant ac ASBI's.

Mae Jake yn ymddangos yn rheolaidd gerbron y Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau, Dyfarnwyr Cofrestrfa Tir EM a Thribiwnlysoedd eraill. Mae ganddo brofiad hefyd o'r Llys Gwarchodol a bu'n cynghori yno.

Masnach ac Adeiladu:
Caiff Jake ei gyfarwyddo rheolaidd gan gwmni telegyfarthrebu rhyngwladol ynglyn a hawliadau'n delio o ddifrod gan gontractwyr ffordd eraill a thrydydd partion i beiriannau a cheblau a osodwyd gan y cwmni.

Ymddangosodd gerbron y Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau mewn cais am ryddhau o Ofynion Ymgynghori o dan Ddeddf Landlord a Thenant 1985 am waith adeiladu mewn argyfwng.

Mae Jake wedi datblygu profiad sylweddol o gynhori BBaChau lleol a phell i ffwrdd ar faterion yn amrywio o adfer dyledion i hawliau cymhleth gan gwmniau a cheisiadau contract.

Cyfraith Gwlad ac Indemniad Proffesiynol:
Mae'r rhan helaeth o bractis Jake yn ymwneud a materion Indemniad Proffesionol gan gynnwys atebolrwydd cyflogwyr, traffig y ffordd, atebolrwydd deiliaid a hawliadau cyfraith gwlad. Derbynia Jake Gytundebau Ffi Amodol.

Mae ganddo brofiad helaeth yn ogystal o achosion Llogi Credyd, ac fe'i cyfarwyddir yn rheolaidd mewn hawliadau carlam ac amldrac . Y mae'n aml yn cynrhycholi cwmniau yswiriant mewn achosion twyll amldrac.

Methdaliad:
Mae Jake yn ymddangos ac yn cynghori ynghylch materion methdaliad corfforaethol phersonol.

Costau:
Caiff Jake ei gyfarwyddo yn rheolaidd ynglyn â materion costau gan gynnwys gwrandawiadau asesu manwl.

Cyflogaeth:
Derbynia Jake gyfarwyddyd ar hawliau cyflogaeth ac mae ganddo brofiad sylweddol o gynrychioli hawlwyr ac ymatebwyr.

Addysg a Thrwyddedu:
Mae gan Jake brofiad o ymddangos gerbron y Tribiwnlys Apêl Addysg ac yn ngwrandawiadau Trwyddedu.

Achosion o bwys:
Jannaway v FRF Motors Ltd: Apêl parthed defnyddio trefn Datgeliad cyn gweithredu mewn achosion bychain eu gwerth.

Yn Re: Castell Clun: Cais gerbron y Tribiwnlys Prisio Lesdaliadau am ryddhad oddi ar Gofynion Ymgynghori o dan Ddeddf Landlord a Thenant 1985 am waith adeiladu mewn argyfwng.

Cooper v Cooper: Cais gerbron Dyfarnwr Cofrestfa Tir EM yn deillio o drafodyn twyllodrus honedig.

Yn Re: Companion Credit: Deiseb Dirwyn i Ben ac adfer costau gwerth dros £1,000,000.

Craig v Ley: Cais llys yn ymwneud â chyd-perchnogion adeilad masnachol.