LLB (Anrhydedd Dosbarth Cyntaf)
Galwyd i'r Bar yn 2008 - Gray's Inn
Maes ymarfer - Teulu, Trosedd a Sifil
Ymunodd Kate â Siambrau Angel yn 2008 ar ôl cwblhau Cwrs Galwedigaethol y Bar yng Nghaerdydd, ac ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn y gyfraith o Brifysgol Abertawe. Fe'i galwyd i'r Bar yn 2008 gan Gray's Inn.
Ar ôl cwblhau tymor prawf llwyddiannus, fe'i derbyniwyd yn Denant yn y Siambrau ym mis Gorffennaf 2009. Sefydlodd bractis amrywiol yn fuan, ac mae'n awyddus i'w ddatblygu'n barhaus yn y tri maes.
TROSEDD:
Mae Kate yn ymgymryd â holl agweddau cyffredinol cyfraith droseddol, gan gynnwys ceisiadau a gwrandawiadau a gwrandawiadau a ymleddir o dan Ddeddf Elw Troseddau 2006. Mae ganddi brofiad o erlyn ac amddiffyn yn Llys yr Ynadon a Llysoedd y Goron ledled de Cymru. Mae ganddi brofiad hefyd o arwain treialon rheithgor, ac mae hi wedi cynrychioli'r Erlyniad a'r Amddiffyniad mewn achosion voire dire.
Yn ogystal, cafodd gyfarwyddyd i erlyn ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau, a bu'n gweithio ar ran yr apeliwr a'r ymatebydd mewn materion yn ymwneud ag elw ariannol a delir gan yr Adran.
Bydd Kate hefyd yn erlyn yn rheolaidd yn Llys yr Ynadon a Llys y Goron ar ran monitro SERCO parthed torcyfraith yn ymwneud â gofynion tagio electronig o dan orchymyn cyrffiw.
TEULU:
Ym maes materion teuluol, cafodd gyfarwyddyd mewn achosion cyfraith breifat a chyhoeddus, gan gynnwys gwrandawiadau terfynol ar gyfer materion cyfraith breifat, yn ogystal â cheisiadau gwaharddeb a gwrandawiadau a ymleddir o dan y Ddeddf Cyfraith Teulu pan fydd yn ymgymryd â gwaith ymgeisydd ac ymatebydd.
SIFIL:
Derbynia Kate gyfarwyddiadau yn y rhan fwyaf o agweddau ar gyfreitha sifil. Bydd yn ymgymryd â gwaith ar gyfer hawlwyr ac ymatebwyr ar wahanol lefelau, gan gynnwys treialon anaf personol llwybr carlam yn y llys sirol.
Aelod o Gymdeithas Cyfraith Trosedd y Bar
Aelod o Gymdeithas Cyfraith Teulu'r Bar.








