Lucy Leader
LLB (Anhrydedd)

Galwyd i'r Bar yn 2002 - Lincoln's Inn

Cwblhaodd Lucy BVC yn Ysgol Gyfraith Caerdydd, lle cafodd ei henwi'n fyfyrwraig orau'r cwrs. Yn ystod ei chyfnod ar y BVC, enillodd Lucy Wobr Buchanan Lincoln's Inn, Ysgoloriaeth Kalisher ac Ysgoloriaeth Peter Millett.

Maes Ymarfer - Teulu a Chyflogaeth

Cyn ymuno â'r Siambrau yn 2005, treuliodd Lucy 18 mis yn gweithio i gwmni Yswiriant Treuliau Cyfreithiol arbenigol, lle bu'n cynghori ar bob agwedd o gyfraith sifil cyn cael ei phenodi'n Ymgynghorydd Cyflogaeth.

Mae practis Cyflogaeth Lucy'n cynnwys gwaith Ymgeisydd ac Ymatebydd, gyda phwyslais arbennig ar Ddiswyddo Annheg a Diswyddo ar sail Gallu. O ganlyniad i'w phrofiad blaenorol, mae hi hefyd yn derbyn cyfarwyddiadau ar bob maes o gyfreitha sifil.

Mae Lucy wedi sefydlu practis teulu'n gyflym, sy'n delio â cheisiadau Cyfraith Plant (cyhoeddus a phreifat) yn ogystal â cheisiadau o dan y Ddeddf Cyfraith Teulu ac achosion gorfodeb. Yn ogystal, mae hi'n ymgymryd â gwaith ym maes imiwnedd lles y cyhoedd, ymwared gwaharddol a chyllid priodasol.

Aelod o Gymdeithas Cyfraith Teulu'r Bar
Aelod o Gymdeithas Cyfraith Cyflogaeth y Bar.