Meysydd Ymarfer - Trosedd, Sifil, Cyflogaeth a Teulu
2010 - Galwyd i'r Bar Gray's Inn
2009-2010 Cwrs Galwadigaethol y Bar, Ysgol Gyfraith y Ddinas, Llundain
2005-2009 LLB Y Gyfraith, Prifysgol Cymru Aberystwyth 2:1
1998-2005 Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd
Darllennodd Lowri Y Gyfraith ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth lle'r ennillodd
hi'r anrhydeddau 2:1. Cyflawnodd hi'r cwrs Galwadiagethol y Bar yn llwyddianus
yn Ysgol Cyfraith y Ddinas, Llundain yn 2010.
Ymunodd Lowri â Siambrau Angel ym mis Medi 2010 ar ôl cwblhau
tymor prawf llwyddiannus a oedd wedi'i oruchwylio gan Geriant Walters.
Er cael ei oruchwylio gan Geraint Walters ym maes Troseddol, cafodd
Lowri y cyfle i ddilyn aelodau o'r timoedd Teulol a Sifil i'r llys,
yn ogystal a chyflawni gwaith papur ac ymchwil yn y tri maes.
Mae Lowri yn siarad Cymraeg yn rhugl a chyflawnodd sawl modiwl o'i gradd
trwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys Cyfraith Troseddol, Cyfraith Contract,
Cyfraith Tir ac Ecwiti. Mae Lowri yn fodlon derbyn gwaith trwy gyfrwng
y Gymraeg a'r Saesneg.
Trosedd
Derbynnai Lowri cyfarwyddyd o'r Erlyniad a'r Amddiffyniad mewn achosion
Troseddol. Mae ganddi brofiad o gynnal achosion yn Llys yr Ynadon, ac
mae hi'n ymddangos yn aml yn Llys y Goron ar faterion gan gynnwys ceisiadau
mechniaeth, gwrandawiadau dedfrydau, torcyfraith ac mewn gwrandawiadau
dadleuol gan gynnwys Apeliadau a gwrandawiadau Newton. Mae Lowri wedi
arfer ag ymddagos ar rhan trydydd partion mewn gwrandawiadau datguddiad
yn ymwneud a PII. Mae gan Lowri brofiad o ymdrin a phlant a phobol ifanc
yn y Llys Ieuenctid. Caiff Lowri ei chyfarwyddo yn aml gan SERCO Monotoring
i erlyn achosion a gwrandawiadau yn ymwneud a toriad tagio electronig.
Mae hi hefyd wedi erlyn ar rhan yn Adran Gwaith a Phensiynau yn ymwneud
a throseddau elw.
Sifil
Derbynnai Lowri cyfarwyddiadau ym mhob rhan o gyfreithfa sifil. Mae
hi yn ymddangos ar rhan yr Ychwynydd a Diffynnydd mewn gwrandawiadau
Hawliadau Bychain, yn ogystal ag ymddangos mewn gwrandawiadau sy'n amrywio
o faterion settliadau ar rhan plant, meddianu morgeisi, ceisiadau I
osod dyfarniad i'r nail a methdaliant. Ymddangosai Lowri o flaen y Tribiwnlys
Hawl Cymdeithasol. Yn ogystal ag ymddangos yn y llys, mae Lowri hefyd
yn derbyn cyfarwyddyd draftio a chynghorio ar baburau.
Cyflogaeth
Cynrhychiolau Lowri Ymgeiswyr ac Ymatebwyr ym mhob math o anghydfod
Cyflogaeth. Mae hi'n derbyn cyfarwyddyd i ddraftio a chynghori ac mae
ganddi brofiad o cynnal achosion cystadleuol yn y Tribiwnlys Cyflogaeth.
Teuluol
Derbynnai Lowri cyfarwyddyd ar rhan Ymgeiswyr ac Ymatebwyr mewn achosion
cyfraith preifat a chyhoeddus. Mae ganddi brofiad o faterion sy'n ymwneud
a cheisiadau phreswylfeydd a chyswllt, ac ym materion ariannol priodasol.
Profiad Blaenorol
Yn ystod ei gwyliau Prifysgol fe weithiodd fel cofnodwraig llys yn Llys
y Goron Caerdydd am pedair mlynnedd, wnaeth y profiad hyn hybu ei diddordeb
yng nghyfraith Troseddol. Yn ystod ei cyfnod yn Llundain fe wnaeth Lowri
gwirfoddoli fel cynghorwraig cyfreithiol yng Nghanolfan Cyfraith Fulham.
Yno fe deliodd a chleiantiaid ym ag achosion ym meysydd amrywiol gan
gynnwys Perchennog a Tenant, Teuluol, Cyflogaeth, Mewnfudiad ac Anafiad
Personol.
Aelod o'r Cymdeithasau canynol;
Cymdeithas Cyfraith Droseddol y Bar
Cymdeithas Cyfraith Cyflogaeth y Bar
Cymdeithas Cyfraith Teulu'r Bar
Uned Pro Bono y Bar.








