Susan Campbell Cwnsler y Frenhines
MA (Caergrawnt)

Sidanwr 2009

Galwyd i'r Bar ym 1986 - Y Deml Ganol

Maes Ymarfer - Cyfraith Teulu, Achosion Plant ac Achosion Llareiddiad Ategol.

Arbenigedd Susan yw achosion gofal, lle bydd yn cynrychioli Awdurdodau Lleol, rhieni a Gwarcheidwaid yn y Llys Sirol, yr Uchel Lys a'r Llys Apêl. Mae ganddi brofiad hefyd ym maes Adolygiadau Barnwrol a Hawliau Dynol.

Mae ganddi brofiad arbennig o achosion yn ymwneud ag anafiadau i blant, ac arweiniodd lawer o achosion ynghylch babanod â nam ar yr ymennydd. Rhan fawr o'i phractis yn ogystal yw gwrandawiadau mwy difrifol i ganfod ffeithiau am niwed emosiynol, cam-drin rhywiol ac esgeulustod.

Mae gan Susan brofiad o achosion o gipio plant yn rhyngwladol, ynghyd â delio â cheisiadau i symud plant i awdurdodaethau amrywiol.

Achosion a fu'n destun adroddiad:


Re G (Gorchymyn Cyfrifoldeb Rhieni) [2006] EWCA Civ 745 [2006] 2 FLR 1092; (Llys Apêl);

Re L (Achosion Gofal; Niwed Arwyddocaol) [2006] EWCA Civ 1282, [2007] 1 FLR 1068 (Y Llys Apêl);

Re L (Plant) (Meini Prawf Trothwy) [2007] 1 FLR 2050 Hedley J (parthed niwed arwyddocaol);

Somerset County Council v D ac eraill [2007] EWCA Civ 722 [2008] 1 FLR 399 (Y Llys Apêl).

Mae gan Susan ddiddordeb arbennig mewn hyfforddiant a bydd yn cynnal seminarau rheolaidd i gyfreithwyr yn rhan o raglen Siambrau Southernhay ac ar y cyd â chyrff eraill.

Astudiodd Susan am ei gradd yng Ngholeg Robinson, Caergrawnt. Ar ôl tymor prawf yn Llundain, gweithiodd am 7 mlynedd mewn Awdurdod Lleol yn yr adran gyfreithiol. Mae'n aelod o Siambrau Southernhay er 1996 pan benderfynodd arbenigo mewn cyfraith teulu. Yn 2005, fe'i penodwyd yn Gyd-bennaeth y Siambrau.

Mae Susan yn byw yn Nyfnaint gyda'i gwr a'i phlant. Mae hi'n hoff o gerddoriaeth, ac yn mwynhau canu'r piano ac organ yr eglwys.

Mae'n aelod o Gymdeithas Cyfraith Teulu'r Bar a derbynia waith arian cyhoeddus, ac eithrio gwaith llareiddiad ategol.

Ers nifer o flynyddoedd, enwir Susan yn eiriolwr blaenllaw ar Gylchdaith y Gorllewin yn y Chambers & Partners Guide to the Legal Profession.