Galwyd i'r Bar - 1999
BVC - Ysgol Gyfraith Ysbytai'r Brawdlys, Llundain
Y Deml Ganol
Mae Sabina Khan yn Aelod Cysylltiol o'r siambrau. Mae Sabina hefyd yn ymarfer o Siambrau Timothy Raggatt Cwnsler y Frenhines, 4 King's Bench Walk, Temple London.
Mae Sabina'n arbenigo mewn Cyfraith Mewnfudo a Chyfraith Teulu.
Mae gan Sabina brofiad helaeth ar bob lefel o gyfraith Mewnfudo, gan gynnwys ceiswyr lloches, trwyddedau gwaith, teithebau ymweld a cheisiadau am aduno teuluoedd. Mae Sabina hefyd yn eistedd ar ran y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol ar gyfer apeliadau'r Adolygiad Ariannu Mewnfudo.
Mae practis Cyfraith Teulu Sabina'n cynnwys holl feysydd Cyfraith Plant, achosion Cyfraith Gyhoeddus a Phreifat a chipio plant. Mae gan Sabina brofiad helaeth yn ogystal mewn materion ariannol. Mae hi'n siarad Bengali'n rhugl ac mae ganddi brofiad o achosion Cyfraith Sharia ar bob lefel.
Aelod o Gymdeithas Cyfraith Teulu'r Bar, a Chymdeithas Ymarferwyr Cyfraith Mewnfudo.








