Recriwtio

Hoffai'r Siambrau ddiolch i bawb a geisiodd am gyfnodau prawf byr gyda ni yn ystod 2011. Yn anffodus, ychydig yn unig o gyfnodau prawf byr y gallwn eu cynnig, ac mae'n rhaid inni ymgymryd â threfniadau a wnaed eisoes i gynnig cyfleoedd cysgodi i fyfyrwyr o amryw o sefydliadau academaidd. O ganlyniad, ni fyddwn yn ystyried rhagor o geisiadau am gyfnodau prawf byr eleni. Fodd bynnag, er mwyn ceisio sicrhau bod y broses o ennill cyfnod prawf mor deg â phosib yn y dyfodol, gwahoddir unrhyw un sydd am wneud cyfnod prawf byr yn ystod 2012 i anfon C.V. ynghyd â llythyr eglurhaol i'r Siambrau yn ystod Chwefror 2012, wedi'i nodi at sylw Pennaeth y Pwyllgor Cyfnodau Prawf. Wedi hynny, cynigir cyfnodau prawf byr yn ystod Mehefin, Gorffennaf ac Awst 2012 i'r ymgeiswyr llwyddiannus.

Mae Siambrau Angel yn gweithredu polisi cyfle cyfartal wrth ymdrin â phob cais.