Joseph Hocquard

Joseph Hocquard

Galwad i’r bar: 
2025
Gray’s Inn
01792 464623

Ymunodd Joseph â'r Siambr fel tenant ym mis Hydref 2026 ar ôl cwblhau ei dymor prawf yn llwyddiannus dan oruchwyliaeth Dyfed Llion Thomas a James Hartson.

Graddiodd Joseph o Brifysgol Abertawe gyda gradd 2:1 Uchaf yn y Gyfraith (LLB). Wedi hynny, graddiodd Joseph o Gwrs Hyfforddi’r Bar ym Mhrifysgol Caerdydd gyda gradd ‘Cymwys Iawn’, gan ennill nifer o farciau ‘Rhagorol’ drwyddo draw. Hefyd, enillodd Joseph radd 'Rhagoriaeth' yn ei Feistr yn y Gyfraith (LLM) ochr yn ochr â Chwrs y Bar.

Mae Joseph yn falch o dderbyn cyfarwyddiadau gan yr erlyniad, yr amddiffyniad ac Awdurdodau Lleol yn Llysoedd y Goron, Ynadon a Ieuenctid.            

 

Meysydd ymarfer

Cyfraith trosedd

Mae Joseph wedi datblygu arfer eang ac mae'n cael ei gyfarwyddo'n rheolaidd i weithredu ar ran yr erlyniad a'r amddiffyniad yn Llysoedd y Goron ac Ynadon. Mae wedi dilyn amrywiaeth o gyfarwyddiadau yn Llys y Goron, gan gynnwys: apeliadau yn erbyn euogfarnau a dedfrydau, achosion atafaelu, gwrandawiadau dedfrydu a mwy. Mae Joseph wedi gweithredu mewn materion sy'n ymwneud â throseddau trefn gyhoeddus, troseddau yn erbyn y person, troseddau gyrru, troseddau cyffuriau, lladrad, troseddau rhywiol a Rheoliadau Adeiladu.

Aelodaeth 

Cylchdaith Cymru a Chaer
Cymdeithas y Bar Troseddol

Addysg 

LLB yn y Gyfraith Prifysgol Abertawe – 2:1 Uchaf
LLM yn y Gyfraith Prifysgol Caerdydd - Rhagoriaeth
Cwrs Hyfforddi Bar Prifysgol Caerdydd - VC