Rhiannon James

Rhiannon James

Galwad i’r bar: 
2025
Lincoln’s Inn
01792 464623
Hapus i gynnal achosion a chynadleddau yn y Gymraeg

Ymunodd Rhiannon â'r siambrau fel tenant ym mis Hydref 2026, wedi cwblhau ei thymor prawf yn llwyddiannus dan oruchwyliaeth Alison Donovan (Teulu – Rhwymedi Ariannol a Sifil) a Catrin Jenkins (Teulu – plant).

Astudiodd Rhiannon y Gyfraith ym Mhrifysgol Bryste, ac wedi hynny dyfarnwyd ysgoloriaeth bwysig yr Arglwydd Denning iddi gan Gymdeithas Anrhydeddus Lincoln's Inn i astudio Cwrs Hyfforddi'r Bar(LLM) ym Mhrifysgol Caerdydd. Cwblhaodd Rhiannon y BTC gan ennill gradd 'Cymwys Iawn', roedd yn Rownd Derfynol Cystadleuaeth Treial Ffug BTC Caerdydd ac yn Rownd Gynderfynol Cystadleuaeth Ffug Lys Rhyng-ysgol Lincoln's Inn a gynhaliwyd yn Llundain. Fel rhan o'i gradd LLM, cwblhaodd Rhiannon brosiect ymchwil yn archwilio effaith hyd priodas a phresenoldeb plant ar ganlyniadau rhwymedi ariannol ar ôl ysgariad, ac enillodd ragoriaeth am hynny.

Mae Rhiannon wedi datblygu ymarfer eang ac mae'n derbyn cyfarwyddiadau mewn achosion rhwymedi ariannol, materion cyfraith plant preifat a chyhoeddus, hawliadau bychan, anaf personol ac mae ganddi ddiddordeb mewn datblygu ymarfer mewn materion amaethyddol.

Meysydd ymarfer

Cyfraith teulu

Mae gan Rhiannon bractis cyfraith teulu prysur, gan dderbyn cyfarwyddiadau mewn amrywiaeth o faterion teuluol ac ymddangos gerbron Barnwyr Cylchdaith, Barnwyr Rhanbarth ac Ynadon Lleyg.

Rhwymedi ariannol

Mae gan Rhiannon bractis rhwymedi ariannol prysur yn cynrychioli partïon mewn gwrandawiadau Penodi Anghydfodau Ariannol a gwrandawiadau Datrys Anghydfodau Ariannol.

Plant

Mae gan Rhiannon bractis cyfraith teulu prysur yn cynrychioli ymgeiswyr ac ymatebwyr mewn amrywiaeth o faterion teuluol gan gynnwys ceisiadau am Orchmynion Trefniadau Plant, Gorchmynion Mater Penodol a Gorchmynion Camau Gwaharddedig.

Mae Rhiannon yn ymgymryd â gwaith ar bob cam o achosion materion cyfraith plant preifat, o gymodi a gwrandawiadau cyfarwyddyd i wrandawiadau terfynol.

Mae Rhiannon hefyd yn derbyn cyfarwyddiadau mewn materion plant cyfraith gyhoeddus.

Gwaharddebau Teuluol

Mae Rhiannon yn cynrychioli'r ymgeisydd a'r ymatebwyr mewn ceisiadau gwaharddeb teuluol am Orchmynion Peidio ag Ymyrryd a Gorchmynion Meddiannaeth, ac mae wedi cynrychioli cleient ymatebydd yn llwyddiannus yn ystod gwrandawiad terfynol Gorchmynion Meddiannaeth a heriwyd, gan dderbyn dyfarniad o blaid ei chleient a arweiniodd at wrthod y cais a ofynnai iddo adael ei gartref. 

Cyfraith sifil

Anaf Personol

Mae Rhiannon yn cyflawni gwaith yn rheolaidd ar amrywiaeth o faterion hawliadau bychain, yn enwedig mewn perthynas â Damweiniau Traffig Ffyrdd lle mae anghydfod ynghylch atebolrwydd a cwantwm. Mae Rhiannon hefyd yn derbyn cyfarwyddiadau i gynrychioli hawlwyr a diffynyddion fel ei gilydd mewn gwrandawiadau Cam 3 mewn perthynas ag anafiadau personol.

Tai a Thir

Mae Rhiannon hefyd yn ymgymryd â gwaith mewn hawliadau meddiant; mae hi'n gweithredu ar ran Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai mewn perthynas â cheisiadau gwaharddebau a thraddodi ar gyfer gwrandawiadau dedfrydu.

Mae Rhiannon wedi cwblhau Cwrs Cychwynnol 10 yr Agricultural Law Association yn llwyddiannus ac felly mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn anghydfodau amaethyddol.

Penodiadau 

Ysgolhaig yr Arglwydd Denning yn Lincoln's Inn

Aelodaeth 

Cymdeithas Cyfraith Teulu’r Bar
Agricultural Law Association
Lincoln’s Inn

Addysg 

Cwrs Ymarfer y Bar Prifysgol Caerdydd – Cymwys Iawn
LLM Prifysgol Caerdydd – Rhagoriaeth
LLB Prifysgol Bryste – Ail ddosbarth uwch