Cyfraith teulu
Cyfraith Breifat:
Mae gan Joanna bractis cyfraith teulu prysur, gan dderbyn cyfarwyddiadau mewn achosion cyfraith breifat a chyhoeddus ac mae wedi ymddangos gerbron pob lefel o'r Farnwriaeth yn y Llys Sirol.
Mae Joanna yn gweithredu mewn amrywiaeth o wrandawiadau mewn perthynas â cheisiadau am Orchmynion Trefniadau Plant, gan gynnwys FHDRA, gwrandawiadau canfod ffeithiau a gwrandawiadau terfynol. Mae hi'n cael ei chyfarwyddo'n rheolaidd mewn materion sy'n ymwneud â honiadau o gam-drin domestig a cham-drin plant.
Yn 2024, arweiniwyd Joanna gan Owen Thomas KC, ac at ddiben y gwrandawiad hwn roeddent yn cynrychioli mam a oedd yn gwneud honiadau o natur rywiol yn erbyn y tad. Gwnaeth Joanna ac Owen Thomas KC ymdrin â'r cleient yn ofalus ac yn sensitif dros gyfnod o sawl dydd tra bod y Llys yn dod i'w gasgliad mewn perthynas ag unrhyw ganfyddiadau.
Mae Joanna wedi gweithredu ar ran Ymgeiswyr ac Ymatebwyr gan gynnwys rhieni ac aelodau o'r teulu ehangach, gan gynnwys neiniau a theidiau.
Mae Joanna hefyd wedi gwneud ac ymateb i geisiadau am orchmynion peidio ag ymyrryd a gorchmynion meddiannaeth.
Cyfraith Gyhoeddus:
Mae Joanna yn cynrychioli pob plaid mewn perthynas â materion cyfraith gyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys yr Awdurdod Lleol, Rhieni a'r Plentyn trwy ei Warcheidwad. Mae Joanna wedi delio â phob math o achosion gan gynnwys Gorchmynion Gofal Dros Dro brys, Gwrandawiadau Rheoli Achosion, Gwrandawiadau Datrys Materion a Gwrandawiadau Terfynol. Mae llawer o'r gwrandawiadau hyn yn gofyn am groesholi gweithwyr proffesiynol a phartïon lleyg. Mae Joanna wedi arfer delio â phynciau sensitif ac mae wedi ymdrin â llawer o fathau o faterion, gan gynnwys honiadau rhywiol, trais domestig ac esgeulustod plant.
Yn 2024, ymddangosodd Joanna gerbron y Llys Apêl fel cyfreithiwr Iau i Matthew Rees KC. At ddiben y gwrandawiad hwn, cynrychiolodd Mr Rees KC a Joanna y tad, a oedd yn wynebu honiadau o gam-drin rhywiol yn erbyn ei blentyn.
Rheoleiddio
Mae gan Joanna brofiad helaeth o gyflwyno achosion ar ran Cyngor y Gweithlu Addysg. Mae Joanna yn cyflwyno tystiolaeth ar ran Cyngor y Gweithlu Addysg mewn perthynas â honiadau a wnaed yn erbyn Pobl Gofrestredig. Gall y gwrandawiadau hyn fod yn Orchmynion Atal Dros Dro, yn Wrandawiadau Rheoli Achosion ac yn Wrandawiadau Addasrwydd i Ymarfer. Mae gan Joanna wybodaeth fanwl am y Cod Ymddygiad ac mae hi'n gallu cymhwyso'r rheolau i'r dystiolaeth mewn ffordd deg a chytbwys.
Cyfraith trosedd
Caiff Joanna gyfarwyddyd rheolaidd i erlyn ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron yn y Llysoedd Ynadon ac Ieuenctid. Fe’i cyfarwyddir yn rheolaidd i ymddangos ar ran yr amddiffyniad yn y Llys Ynadon mewn ceisiadau am fechnïaeth, dedfrydu ac achosion.
Cyfarwyddir Joanna hefyd yn rheolaidd i wneud ceisiadau am Orchmynion Amddiffyn rhag Trais Domestig, Gorchmynion Amddiffyn Cymunedol a Gorchmynion Atal Niwed Rhywiol ar ran yr heddlu.
Cyfraith sifil
Mae Joanna yn cynrychioli Hawlyddion a Diffynyddion ym maes achosion mân ddyledion a thrac carlam gan gynnwys damweiniau ffyrdd ac anghydfodau anafiadau personol.
