Cyfraith teulu
Mae gan Nia bractis cyfraith teulu prysur yn cynrychioli ymgeiswyr ac ymatebwyr mewn amrywiaeth o faterion teuluol yn y Llys Sirol gerbron Ynadon, Barnwyr Rhanbarth a Barnwyr Cylchdaith.
Mae Nia yn aml yn derbyn cyfarwyddiadau yn ymwneud â cheisiadau am Orchmynion Trefniadau Plant, Gorchmynion Gwarchod Arbennig, Gorchmynion Mater Penodol a Gorchmynion Camau Gwaharddedig. Mae Nia yn cynrychioli amrywiaeth o unigolion yn y ceisiadau hyn gan gynnwys rhieni, neiniau a theidiau a gwarcheidwad y plant. Mae Nia yn ymgymryd â gwaith ar bob cam o achosion materion cyfraith plant preifat, o gymodi a gwrandawiadau cyfarwyddyd i wrandawiadau terfynol.
Mae Nia wedi cynrychioli cleientiaid mewn achosion llareiddiad ategol, materion cyfraith gyhoeddus a cheisiadau am waharddeb teulu ar gyfer Gorchmynion Peidio ag Ymyrryd a Gorchmynion Meddiannaeth.
Cyfraith sifil
Mae Nia yn cyflawni gwaith yn rheolaidd ar amrywiaeth o faterion hawliadau bychain, yn enwedig mewn perthynas â Damweiniau Traffig Ffyrdd lle mae anghydfod ynghylch atebolrwydd a cwantwm. Mae Nia hefyd yn derbyn cyfarwyddiadau i gynrychioli hawlwyr a diffynyddion fel ei gilydd mewn gwrandawiadau Cam 3 mewn perthynas ag anafiadau personol. Mae gwaith pellach yn cynnwys hawliadau am feddiant a wneir o dan adran 8 ac adran 21 Deddf Tai 1988.
