Mae Siambrau Angel yn un o'r setiau hynaf ar Gylchdaith Cymru. Fe'u sefydlwyd yn y 1920au, ac maent bellach wedi hen ennill eu plwyf.
Dros y blynyddoedd, cafwyd cynnydd cyson a strwythuredig yn nifer y tenantiaid sy'n ymarfer o'r set, a bydd y broses hon yn parhau. O ganlyniad I hyn ni ydywr set fwyaf nawr yn ne Orllewin Cymru. Rydym wedi addasu yn unol ag anghenion ein cleientiaid proffesiynol a lleyg, gan ymdrechu i ddarparu'r gwasanaethau a geisir oddi wrthym. Rydym yn falch o feddu ar yr adnoddau i gynghori cleientiaid ac i ymddangos yn y Llys trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob disgyblaeth gyfreithiol ac ar bob lefel.
Dros y blynyddoedd, mae llawer o gyn-aelodau'r Siambrau wedi mynd ymlaen i dderbyn Swyddi Barnwrol amrywiol, gan gynnwys penodiadau i'r Uchel Lys a Mainc y Gylchdaith yn ogystal â swyddi Barnwyr Rhanbarth a Chadeiryddion Tribiwnlysoedd Diwydiannol. Mae Swyddi Barnwrol rhan amser gan nifer o'n tenantiaid presennol.
Cynigiwn wasanaeth eiriolaeth a chynghori cynhwysfawr ar draws De a Gorllewin Cymru yn bennaf ond rydym yn barod i dderbyn gwaith yn unrhyw le ar y Gylchdaith a thu hwnt iddi pan fo hynny'n briodol. Gall ein haelodau gynghori ar bron bob disgyblaeth ac maent yn barod bob amser i addasu er mwyn ateb gofynion cleientiaid.
Mae gennym Dîm Trosedd sefydledig sy'n ymarfer ar bob lefel mewn Achosion Troseddol. Bellach, y Siambrau sydd â'r Tîm Teulu mwyaf yn Ne Orllewin Cymru, sy'n ymarfer yn holl feysydd gwaith teulu, yn y Gyfraith Breifat a'r Gyfraith Gyhoeddus.
Mae nifer o'n haelodau'n arbenigo mewn Cyfraith Sifil ac yn gallu derbyn cyfarwyddiadau mewn ystod eang o achosion.
Yn 2008, symudasom i adeilad newydd sbon â chyfleusterau o'r radd flaenaf, sy'n cynnwys cyfleusterau cynadledda cyflawn a chyfforddus â'r dechnoleg ddiweddaraf.
Mae croeso ichi drefnu ymweliad i weld y cyfleusterau sydd ar gael, ac rydym hefyd yn hapus i drafod gyda'n cleientiaid proffesiynol, i bennu'r camau y gallwn eu cymryd i ateb eu gofynion ac i barhau i ddarparu'r gwasanaeth cynhwysol, proffesiynol a chyfeillgar sy'n hollbwysig i ni.






