Joanna Wilkins

Joanna Wilkins

Galwad i’r bar: 
2019
Middle Temple

Ymunodd Joanna â’r Siambrau fel tenant yn 2020 wedi cwblhau tymor prawf yn llwyddiannus o dan oruchwyliaeth Matthew Rees ac Alison Donovan (Teulu) a Dyfed Thomas (Trosedd).

Astudiodd Joanna y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd. Aeth yn ei blaen i gyflawni’r BPTC a gradd Meistr Cyfreithiol yn yr un Brifysgol, lle derbyniodd radd Rhagoriaeth.

Mae Joanna wedi datblygu ymarfer eang gan dderbyn cyfarwyddyd mewn materion plant cyfraith breifat a chyfraith gyhoeddus, llareiddiad ategol, mân ddyledion, hawliadau dull carlam, anafiadau personol ynghyd â chynnal achosion troseddol ar gyfer yr erlyniad a’r amddiffyniad. 

 

Meysydd ymarfer

Cyfraith teulu

Cyfraith Breifat

Mae gan Joanna ymarfer cyfraith teulu prysur, gan dderbyn cyfarwyddyd mewn achosion cyfraith breifat a chyhoeddus ac mae wedi ymddangos o flaen pob lefel o’r Farnwriaeth yn y Llys Sirol.

Gweithreda Joanna mewn amrywiaeth o wrandawiadau yn ymwneud â cheisiadau am Orchmynion Trefniadau Plant, gan gynnwys FHDRA, gwrandawiadau canfod ffeithiau a gwrandawiadau terfynol. Fe’i cyfarwyddir yn rheolaidd mewn materion sy’n ymwneud â honiadau o drais domestig a cham-drin plant.

Mae Joanna wedi gweithredu ar ran Ceiswyr ac Atebwyr gan gynnwys rhieni ac aelodau ehangach y teulu.

Mae Joanna hefyd wedi gwneud ac ymateb i geisiadau am orchmynion i gadw rhag ymyrryd a meddiannaeth.

Mae Joanna hefyd yn brofiadol wrth ddelio â materion llareiddiad ategol gan gynnwys penodiadau cyfarwyddyd cyntaf (FDA) a gwrandawiadau datrys anghydfodau.

Cyfraith Gyhoeddus

Mae Joanna yn cynrychioli rhieni mewn ystod o faterion cyfraith gyhoeddus gan gynnwys ceisiadau gofal interim, gwrandawiadau rheoli achosion, ceisiadau C2 a chynnal gwrandawiadau penderfyniadau.

 

Cyfraith trosedd

Caiff Joanna gyfarwyddyd rheolaidd i erlyn ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron yn y Llysoedd Ynadon ac Ieuenctid. Fe’i cyfarwyddir yn rheolaidd i ymddangos ar ran yr amddiffyniad yn y Llys Ynadon mewn ceisiadau am fechnïaeth, dedfrydu ac achosion.

Cyfarwyddir Joanna hefyd yn rheolaidd i wneud ceisiadau am Orchmynion Amddiffyn rhag Trais Domestig, Gorchmynion Amddiffyn Cymunedol a Gorchmynion Atal Niwed Rhywiol ar ran yr heddlu.

Cyfraith sifil

Mae Joanna yn cynrychioli Hawlyddion a Diffynyddion ym maes achosion mân ddyledion a thrac carlam gan gynnwys damweiniau ffyrdd ac anghydfodau anafiadau personol.

Aelodaeth 

Cymdeithas Cyfraith Teulu’r Bar
Cylchdaith Cymru a Chaer

Addysg 

L.L.B (Anrhydedd) Prifysgol Caerdydd– 2:1
BPTC ac LLM Prifysgol Caerdydd – Rhagoriaeth