Hannah George

Hannah George

Galwad i’r bar: 
2015
Y Deml Fewnol

Ymunodd Hannah â’r siambrau fel tenant ym mis Mawrth 2018, ar ôl iddi gwblhau ei thymor prawf troseddol dan oruchwyliaeth Dyfed Thomas yn llwyddiannus.

Cyn ei thymor prawf, gweithiodd Hannah fel paragyfreithiwr yn Adran Cyfreitha Masnachol y prif gwmni cyfreitha yn unig yng Nghanol Llundain. Fel rhan o’i rôl, roedd hi ynghlwm mewn anghydfodau masnachol gwerth uchel ac achosion o ddiswyddiadau annheg.

Yn ystod ei hamser yn astudio am Gwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar, gwirfoddolodd Hannah ym Mhrosiect Innocence, Llundain. Fel rhan o’i rôl, astudiodd dystiolaeth ac ail-ymchwiliodd a drafftiodd resymau dros apelio i’r rheiny oedd yn mynnu eu bod yn ddiniwed.

 

Meysydd ymarfer

Cyfraith trosedd

Caiff Hannah gyfarwyddyd cyson i’r erlyniad a’r amddiffyniad yn Llysoedd y Goron, Ynadon ac Ieuenctid. Mae hi wedi ymgymryd â chasgliad o gyfarwyddiadau yn Llys y Goron, gan gynnwys: treialon, gwrandawiadau dedfrydau, apeliadau ac achosion atafaelu. Mae hi’n delio ag amrywiaeth eang o droseddau gan gynnwys twyll, cyffuriau, moduro a throseddau treisgar a rhywiol. Mae Hannah yn Erlynydd Gradd 3 ar Banel Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Rheoleiddiol

Caiff Hannah gyfarwyddyd mewn perthynas ag erlyniadau a ddygwyd ar ran Awdurdodau Lleol. Mae hi wedi gweithredu mewn achosion sy’n cynnwys diogelwch cynnyrch ac arferion masnachol annheg / ymosodol. 

Aelodaeth 
  • Cymdeithas y Bar Troseddol
  • Cyfreithwyr Ifanc Cymorth Cyfraith
  • Cylchdaith Cymru a Chaer.
Addysg 

City Law School -  BPTC, Cymwys Iawn

Prifysgol Abertawe – Y Gyfraith LLB, Anrhydedd Dosbarth Cyntaf.