Simon Stephenson

Simon Stephenson

Galwad i’r bar: 
2005
Y Deml Fewnol
01792 464623

Ymunodd Simon â’r Siambrau yn 2007 wedi iddo gwblhau tymor prawf yn llwyddiannus. Mae Simon yn rheoli ymarfer eang a phrysur sy’n arbenigo mewn cyfraith teulu.

Meysydd ymarfer

Cyfraith teulu

Mae Simon yn ymarferydd teulu profiadol sy’n arbenigo mewn achosion sy’n ymwneud â phlant. Mae’n ymgymryd â gwaith cyfraith gyhoeddus a phreifat ar bob lefel hyd at ac yn cynnwys y Llys Apêl. Derbynia Simon hefyd gyfarwyddyd ar gyfer Ysgariad a Ymleddir, Anghydfodau Cydbreswylwyr a materion Llys Gwarchod.

Cyfraith gyhoeddus

Cynrychiola Simon Awdurdodau Lleol, rhieni, gwarcheidwaid a phlant ar bob lefel. Mae’n brofiadol mewn achosion sy’n ymwneud â cham-drin corfforol, rhywiol ac emosiynol difrifol, ac esgeulustod. Mae gan Simon brofiad o achosion sy’n cynnwys materion awdurdodaeth a materion cyfreithiol cymhleth eraill.  Yn aml, cynrychiola Simon gleientiaid agored i niwed gan gynnwys rhai ag anhwylderau personoliaeth ac anawsterau dysgu.

Cyfraith breifat

Mae Simon yn cynrychioli rhieni a gwarcheidwaid ym mhob math o anghydfodau plant cyfraith breifat gan gynnwys ceisiadau i eithrio o awdurdodaeth ac achosion sy’n cynnwys honiadau o gam-drin corfforol, rhywiol ac emosiynol difrifol.

 

Achosion Nodedig

Re K (A Child) [2017] EWCA Civ 2720

Re B-L (Children) [2017] EWCA Civ 1878

Re M (A Child) (Secure Accommodation) [2018] EWCA Civ 2707

A v Cardiff City Council, B, X, Y [2019] EWCA Civ 1360.

Aelodaeth 
  • Cymdeithas Cyfraith Teulu’r Bar
  • Cylchdaith Cymru a Chaer
Addysg 
  • Y Gyfraith LLB Anrhydedd