Cyfleusterau

Yn 2008, symudon ni i adeilad newydd sbon gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n darparu cyfleusterau cynadledda cysurus ac wedi’u darparu ar eu cyfer yn dda gyda’r dechnoleg ddiweddaraf.

Yn ogystal, mae gennym offer fideo gynadledda i gynnal cynadleddau gyda chyfreithwyr, carchardai a llysoedd. Mae ein cyfleuster fideo-gynadledda ar gael i’w logi’n breifat hefyd.

Cydnabyddwn fod cyfleusterau cynadledda cysurus a phroffesiynol yn hanfodol ac mae’n bleser gennym gynnig amrywiaeth o ystafelloedd cynadledda mewnol i letya 2 i 100 o bobl. Mae’r adeilad hefyd yn cynnwys caffi sydd ar gael i’n holl gleientiaid.

Gellir trefnu lle parcio preifat diogel i ymwelwyr ein hadeilad; cysylltwch â’n Clercod i gadw lle parcio ac i gael map a chyfarwyddiadau.

Mae gennym fynediad i E-bost Diogel. Cysylltwch â’n Clercod i gael rhagor o fanylion neu anfonwch e-bost atynt ar clerks@angelchambers.co.uk.cjsm.net.

Mae Siambrau Angel yn set flaengar. Mae ein Haelodau a’n Clercod yn gweithio’n gyson i wella’n systemau er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau un i’n cleientiaid.

Croesawn geisiadau am ymweliadau er mwyn gweld y cyfleusterau sydd ar gael ac rydym hefyd yn hapus i drafod gyda’n cleientiaid proffesiynol pa gamau pellach allem ymgymryd â nhw er mwyn diwallu eu disgwyliadau a darparu’r gwasanaeth hollgynhwysol, proffesiynol a chyfeillgar rydym yn benderfynol o barhau i’w ddarparu.

Angel Chambers Facilities