Kira Evans

Kira Evans

Galwad i’r bar: 
2019
Gray’s Inn

Ymunodd Kira â’r Siambrau fel tenant ym mis Ionawr 2021 wedi cwblhau tymor prawf yn llwyddiannus o dan oruchwyliaeth Dyfed Thomas, Natasha Moran ac Alison Donovan.

Cyflawnodd Kira radd y Gyfraith gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd. Wedi hyn, enillodd Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Meistr gyda Phrifysgol Caerdydd cyn cyflawni ei BPTC ac LLM yn yr un Brifysgol.

Mae Kira wedi datblygu ymarfer eang mewn materion plant cyfraith breifat a chyhoeddus, llareiddiad ategol, hawliadau bychain ac achosion yr erlyniad a’r amddiffyniad yn y Llysoedd Ynadon.

Meysydd ymarfer

Cyfraith teulu

Mae Kira wedi datblygu ymarfer cyfraith teulu prysur, gan gynrychioli Ceiswyr ac Ymatebwyr yn y Llys Sirol. Derbynia Kira gyfarwyddyd ar gyfer achosion cyfraith breifat a chyfraith gyhoeddus. Mae ei gwaith wedi cynnwys cynrychioli awdurdodau lleol a rhieni ar wahanol adegau yn ystod achosion gofal gan gynnwys gwrandawiadau rheoli achos, gwrandawiadau tynnu i ffwrdd dros dro a gaiff ei herio, gwrandawiadau datrys problemau a gwrandawiadau terfynol.

Caiff Kira ei chyfarwyddo’n rheolaidd mewn materion cyfraith breifat gan gynnwys materion yn ymwneud â cham-drin domestig a honiadau o gam-drin plant. Mae Kira yn brofiadol wrth gynrychioli cleientiaid ar bob cam mewn anghydfodau cyfraith breifat o gymodi i wrandawiadau canfod ffeithiau a gwrandawiadau terfynol.

 

Cyfraith trosedd

Cyfarwyddir Kira yn rheolaidd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron ac fel amddiffyniad mewn achosion o flaen y Llysoedd Ynadon. Mae Kira wedi delio ag ystod eang o faterion gan gynnwys troseddau trefn gyhoeddus, lladrad, troseddau yn erbyn y person a throseddau gyrru.

Cyfarwyddir Kira ym maes dedfrydu, ceisiadau am fechnïaeth a threialon.

Mae Kira yn cynrychioli’r heddlu’n rheolaidd mewn ceisiadau am Orchmynion Amddiffyn rhag Trais Domestig ynghyd â cheisiadau datgelu ar ran yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron o flaen y Llys Teulu.

Cyfraith sifil

Mae Kira yn cynrychioli Hawlyddion a Diffynyddion ym maes hawliadau bychain gan gynnwys damweiniau ffyrdd ac anghydfodau adeiladu.

Aelodaeth 

Cymdeithas Cyfraith Teulu’r Bar

Addysg 

L.L.B Prifysgol Caerdydd – Anrhydedd Dosbarth Cyntaf
BPTC ac LLM Prifysgol Caerdydd – Rhagorol/Rhagoriaeth