Luke Lambourne

Galwad i’r bar: 
2007
Lincoln’s Inn
01792 464623

Ymunodd Luke â’r Siambrau fel Tenant yn 2017 ar ôl cwblhau ei dymor prawf yn llwyddiannus dan oruchwyliaeth Alison Donovan (Teulu).

Cyn dechrau’r tymor prawf, gweithiodd Luke fel Ymgynghorydd Cyfreithiol Llys Ynadon ar draws De a Gorllewin Cymru am gyfnod o naw mlynedd, gan ddelio â’r ystod lawn o faterion troseddol a theuluol o flaen y Llysoedd hynny. Roedd Luke yn ymwneud yn helaeth hefyd â rhoi hyfforddiant i gydweithwyr ac Ynadon ac ysgrifennodd ddeunyddiau hyfforddiant i’w defnyddio gan y Coleg Barnwrol.

Meysydd ymarfer

Cyfraith teulu

Mae gan Luke bractis cyfraith teulu prysur, gan dderbyn cyfarwyddyd mewn achosion cyfraith breifat a chyhoeddus.

Cyfraith Breifat

Mae Luke wedi ymddangos o flaen pob lefel o Farnwriaeth yn y Llys Sirol. Mae’n ymddangos yn gyson mewn FHDRAs, gwrandawiadau cyfarwyddo a gwrandawiadau terfynol. Mae wedi cynrychioli Tad mewn Gwrandawiad Terfynol yn llwyddiannus, oedd yn gwrthwynebu symud ei blant o’r awdurdodaeth yn barhaol.

Mae Luke wedi cael cyfarwyddyd hefyd mewn perthynas â cheisiadau dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996.

Cyfraith Gyhoeddus

Mae Luke wedi ymddangos o flaen pob lefel o Farnwriaeth yn y Llys Sirol mewn perthynas ag ystod lawn y gwrandawiadau cyfraith gyhoeddus. Mae wedi cael cyfarwyddyd mewn nifer o wrandawiadau symud dros dro sy’n destun dadlau i’r ddau riant a’r Awdurdod Lleol. Yn ogystal, mae Luke wedi cynnal nifer o wrandawiadau terfynol mewn achosion gofal ar ran rhieni. Mae Luke wedi cael cyfarwyddyd mewn gwrandawiadau terfynol mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd i wrthwynebu gorchmynion mabwysiadu a chaniatâd i ddirymu gorchmynion lleoli. 

Cyfraith trosedd

Mae Luke gyfarwyddyd cyson gan y Gwasanaeth i gynnal achosion yn y Llys Ynadon ac mae’n ymddangos yn Llys y Goron mewn perthynas ag apeliadau, traddodi i ddedfryd, ceisiadau am fechnïaeth a dedfrydu.

Mae Luke newydd gael cyfarwyddyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron i erlyn achos sawl diwrnod yn Llys y Goron am droseddau Affräe a Meddu ar Erfyn Niweidiol. At hynny, mae wedi cael cyfarwyddyd yn Llys y Goron i amddiffyn cyhuddiad o fod ym meddiant cyffuriau dosbarth A gyda’r bwriad o’u cyflenwi.

Cyfraith sifil

Mae Luke wedi cael cyfarwyddyd i ymddangos ar ran Hawlwyr a Diffynyddion yn y Llys Sirol mewn nifer o Fân Hawliadau mewn perthynas â Damweiniau Traffig ar y Ffyrdd a Chytundebau Llogi Credyd. Yn ogystal, mae gan Luke brofiad o Wrandawiadau Penderfynu Cam 3, gan ymddangos ar ran yr Hawliwr a Chwmnïau Yswiriant y Diffynyddion.

Yn ogystal, mae wedi cael cyfarwyddyd i ymddangos mewn treialon Llwybr Cyflym.

Aelodaeth 
  • Cymdeithas Cyfraith Teulu’r Bar

  • Cymdeithas y Bar Troseddol

  • Cylchdaith Cymru a Chaer

Addysg 
  • Prifysgol Caerdydd – BVC
  • Prifysgol Bryste – Y Gyfraith