James Hartson

James Hartson

Galwad i’r bar: 
2010
Y Deml Fewnol
01792 464623
Mae’n cynnal achosion yn y Gymraeg a’r Saesneg

Ymunodd James â’r Siambrau yn 2010, yn dilyn gyrfa gyntaf fel heddwas am 20 o flynyddoedd yn Llundain a Chaerdydd, gan gynnwys sawl blwyddyn fel swyddog yn yr Adran Arbennig a ditectif yn New Scotland Yard.

Mae gan James radd anrhydedd dosbarth cyntaf yn y gyfraith a dyfarnwyd gradd ragorol iddo yn ei gwrs i’r Bar. Mae’n enillydd gwobrau Teml Fewnol ac ysgol y Gyfraith ym Mryste.

Mysedd ymarfer

Cyfraith trosedd

Mae James yn gweithredu i’r erlyniad a’r amddiffyniad ym mhob achos yn Llys y Goron a mae’n gallu cynnal achosion drwy’r iaith Gymraeg. Mae wedi ymddangos hefyd yn isadran droseddol y Llys Apêl mewn apeliadau yn erbyn collfarnau a dedfrydau. Mae James yn aml yn cael ei gyfarwyddo fel cwnsl ieuaf mewn achosion o lofruddiaeth.

Mae’n aelod o Banel Eiriolwyr  Gwasanaeth Erlyn y Goron Trais a troseddau rhywiol difrifol.

Mae James wedi cynrychioli’r amddiffyniad mewn sbectrwm eang o honiadau troseddol, gan gynnwys troseddau herwgipio, lladrad, drylliau a masnachu cyffuriau. Mae’n gweithredu hefyd mewn troseddau twyll ac anonestrwydd difrifol gan gynnwys cynllwynio i dwyllo, blacmel, ymolchi arian a gwrthdroi cwrs cyfiawnder. Yn ogystal, mae James yn cynrychioli diffynyddion mewn achosion troseddau rhywiol, gan gynnwys y rhai’n ymwneud â honiadau hanesyddol.

Caiff James gyfarwyddyd cyson gan awdurdodau lleol i erlyn troseddau twyll a diogelu defnyddwyr a ymchwilir iddynt gan swyddogion Safonau Masnach.

Mae James wedi cynrychioli’r heddlu ac aelodau’r cyhoedd mewn apeliadau yn erbyn dirymu tystysgrifau drylliau. Ymddangosodd hefyd o flaen y Bwrdd Parôl i gynrychioli carcharorion a ailalwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn apeliadau yn erbyn dirymu eu trwyddedau ac hefyd wedi cynrychiolu heddweision mewn achosion ddisgyblu a chamymddwyn.

Aelodaeth 
  • Cymdeithas y Bar Troseddol
  • Cylchdaith Cymru a Chaer
Addysg 
  • LLB (Anrhydedd Dosbarth Cyntaf)
  • BVC (Gradd Ragorol)